Hanes y Bedyddwyr

Llyfr hanes yn y Gymraeg gan Joshua Thomas yw Hanes y Bedyddwyr, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1786. Ceir hanes yr eglwys yng Nghymru o oes y Rhufeiniaid, cymodi ag Eglwys Rufain yn 690 a dod dan ddylanwad Caergaint o 1115 ymlaen. Wedyn mae hanes datblygu y gwahanol sectau hyd at ffurfio Coleg Caerfyrddin (1706), Presbyteriaid a Coleg Y Fenni (1754) ar gyfer yr Annibynwyr. Roedd y Bedyddwyr yn mynd at Athrofa Bryste o 1720 ymlaen.

Hanes y Bedyddwyr

Drwy Thomas yr ydym yn dod i nabod am Syr Thomas Middleton Y Waun yn ariannu argraffiad Cymraeg o'r Beibl a'r bendith arno a'i 'eppil' (sic) gan Stephen Hughes am ei gymwynas at y Cymry.

Adargraffwyd rhannau o'r llyfr yn 1907 yn y gyfrol Gwaith Joshua Thomas (Gwasg Ab Owen, Llanuwchllyn, Cyfres y Fil). Dim ond braslun o hanes a'r rhannau am ei ganrif ei hun sydd yn y fersiwn hon, am ei fod yn dyst i'r cyfnod - hyd at 1777 o leiaf.

Llyfryddiaeth golygu

  • Gwaith Joshua Thomas (1907). Gwasg Ab Owen, Llanuwchllyn (Cyfres y Fil).
  Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.