Joshua Thomas
Gweinidog efo'r Bedyddwyr oedd Joshua Thomas (22 Chwefror 1719 – 25 Awst 1797). Ei brif enwocrwydd yw fel awdur y llyfr Hanes y Bedyddwyr (1786), sef hanes cynnar y Bedyddwyr yng Nghymru. Ganwyd Joshua Thomas yng Nghaio; bu farw yn Llanllieni yn Lloegr.[1]
Joshua Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 22 Chwefror 1719 Caeo |
Bu farw | 25 Awst 1797 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | hanesydd, cyfieithydd |
Bywgraffiad
golyguRoedd yn dyst i ddatbygiad crefydd yng Nghymru y cyfnod ac yn weithgar iawn yn y mudiad i ddosbarthu'r Beibl Cymraeg.
Roedd yn fab i Forgan Thomas o'r Tŷ Hen, Caio. Priododd yn Ionawr 1746 ac ymsefydlodd yn Y Gelli lle roedd yn bregethwr. Wedyn aeth ymlaen i ofalu am Fedyddwyr Llanllieni ac oddi yno y daeth yr arian i brynu 120 o feiblau cymraeg i ddosbarthu yn y tai cwrdd - rhodd gan Mrs Marlow, aelod o'i gapel.
Roedd yn cydoesi gyda Griffith Jones, Llanddowror, a Daniel Rowland ac yn dyst i ddechreuad y Diwygiad Methodistaidd. Ysgrifennodd am hanes ei enwad yn y Saesneg ac yn y Gymraeg.
Ceir ailargraffiad o ran o'i waith ym 1907 dan y teitl Gwaith Joshua Thomas (1907) gan Wasg Ab Owen, Llanuwchllyn. Dim ond sgwennu am ei ganrif ei hun a wnaeth yn y fersiwn hon, am ei fod yn dyst i'r cyfnod - hyd at 1777 o leiaf. Drwy Thomas y down i glywed i Syr Thomas Middleton, Y Waun ariannu argraffiad Cymraeg o'r Beibl.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Morgan, D. Densil. "Thomas, Joshua (1719–1797)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/27232.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)