Yn y cyfnod Rhufeinig, roedd nifer o lwythau Celtaidd yn byw yn yr ardal sy'n awr yn ffurfio'r Swistir. Y pwysicaf o'r rhain oedd yr Helvetii. Daw enw swyddogol Lladin y Swistir, Confoederatio Helvetica neu Helvetia, o enw'r llwyth yma. Ceir manylion amdanynt gan Iŵl Cesar yn ei Commentarii de Bello Gallico. Dywed Cesar fod un o uchelwyr yr Helvetii, Orgetorix, wedi cynllunio i'r holl lwyth ymfudo o ardal yr Alpau i orllewin Gâl. Gadawodd yr Helvetii eu cartrefi yn 58 CC. Erbyn iddynt gyrraedd ffîn tiriogaeth yr Allobroges, roedd Cesar wedi malurio'r bont yn Genefa i'w hatal rhag croesi. Gyrrodd yr Helvetii lysgenhadon i ofyn am ganiatad i fynd trwy'r tiriogaethau hyn, ond wedi i Cesar gasglu ei fyddin ynghyd, gwrthododd roi hawl iddynt basio. Dilynodd yr Helvetii lwybr arall, trwy diriogaethau'r Sequani, ac anrheithio tiroedd yr Aedui, a ofynnodd i Cesar am gymorth. Ymosododd Cesar arnynt wrth iddynt groesi Afon Saône, a'u gorchfygu. Gorchfygwyd hwy eto ger Bibracte, a bu raid iddynt ildio i fyddin Cesar yn fuan wedyn. Gorchmynodd iddynt ddychwelyd i'w hen diriogaethau.

Sefydlwyd y Swistir ar 1 Awst 1291, pan ddaeth tri canton, Uri, Schwyz ac Unterwalden, at ei gilydd a gwneud cytundeb i gynothwyo ei gilydd i ddod yn annibynnol ar frenhinllin yr Habsburg.

Cydnabyddwyd annibyniaeth y Swistir yn Heddwch Westffalia yn 1648, a roddodd ddiwedd ar y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain. Ychwanegodd cantonau eraill ei hunain at y conffederasiwn dros y blynyddoedd.

Yn ystod y Chwyldro Ffrengig, newidiwyd y dull o lywodraethu, a sefydlwyd y Weriniaeth Helfetaidd fel gweriniaeth ganolog. Fodd bynnag, dychwelwyd at drefn conffederasiwn yn 1803.

Bu'r Swistir yn niwtral yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd.