Bibracte
Roedd Bibracte yn oppidum neu ddinas gaerog yng Ngâl, prifddinas yr Aedui ac un o fryngaerau pwysicaf Gâl. Mae cloddio archaeolegol ar y safle wedi datgelu olion diwylliant La Tène. Mae'r oppidum yn gorwedd ar bedwar bryn, gan gynnwys Mont Beuvray (2500 troedfedd), gyda arwynebedd tir o tua 130 hectar. Mae tair arysgrif ddefodol a ddarganfuwyd ar y safle yn dangos iddo gael ei enwi ar ôl duwies Geltaidd o'r un enw.
Delwedd:Monumental Basin in Bibracte.jpg, Bibracte Porte Rebout.jpg | |
Math | Oppidum, safle archaeolegol, amgueddfa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Saint-Léger-sous-Beuvray, Glux-en-Glenne, Larochemillay |
Gwlad | Ffrainc |
Cyfesurynnau | 46.9231°N 4.0375°E, 46.9244°N 4.035°E |
Statws treftadaeth | monument historique classé, Grand site de France |
Manylion | |
Yn 58 CC gorchfygodd Iŵl Cesar yr Helvetii ym Mrwydr Bibracte, 16 milltir i'r de o'r oppidum. Yn Bibracte y cyfarfu'r llwythau Galaidd i gyhoeddi Vercingetorix yn arweinydd y gwrthryfel yn erbyn y Rhufeiniaid, ac yn Bibracte y gorffennodd Cesar ei lyfr De bello Gallico ar ôl gorchfygu'r gwrthryfel. Ychydig ddegawdau wedyn, yn amser yr ymerawdwr Augustus, symudwyd poblogaeth Bibracte i ddinas Rufeinig newydd Augustodunum (Autun heddiw), 25 km i ffwrdd.
Bu'r cloddio cyntaf ar y safle gan farsiandïwr gwin o'r enw Gabriel Bulliot rhwng 1867 a 1895, a pharhawyd y gwaith gan ei nai Joseph Déchelette o 1897 hyd 1907. Mae'r safle, (Mont Beuvray), yn awr yn barc archaeolegol. Fe'i lleolir yn département Saône-et-Loire, 12 milltir i'r gorllewin o Autun.
Llyfryddiaeth
golygu- D. Bertin a J.-P. Guillaumont, Une ville gauloise sur le Mont Buevray (Paris, 1987)