Llwyth Celtaidd yng nghanolbarth Gâl oedd y Sequani. Roedd eu tiriogaethau o gwmpas rhan uchaf dalfyrch yr Arar (Afon Saone heddiw), yn cyfateb i Franche-Comté a rhan o Fwrgwyn. Eu prifddinas oedd Vesontio, Besançon heddiw.

Map o Gâl yn y ganrif gyntaf CC. yn dangos tiriogaethau'r Sequani.

Ychydig cyn i Iŵl Cesar ddechrau ei ymgyrchoedd yng Ngâl, roedd y Sequani wedi ochri gyda'r Arverni yn erbyn yr Aedui, ac wedi llogi'r Suebi dan Ariovistus i groesi Afon Rhein i'w cynorthwyo yn 71 CC. Gorchfygwyd yr Aedui, ond yna gwrthododd Ariovistus ymadael, gan gipio traean o diriogaeth y Sequani a bygwth cymryd traean arall.

Apeliodd y Sequani at Cesar, a yrrodd y Suebi o'u tiriogaethau yn 58 CC. Fodd bynnag, gorfododd Cesar y Sequani i ddychwelyd popeth yr oeddynt wedi ei ennill oddi wrth yr Aedui. Ymunodd y Sequani â gwrthryfel Vercingetorix yn 52 CC. Wedi marwolaeth Vitellius yn 69 OC, gwrthodasant ymuno â gwrthryfel Gaius Julius Civilis a Julius Sabinus yn erbyn Rhufain, a chodwyd Vesontio i statws colonia fel gwobr.