Hans Busk
Ysgolhaig a bardd Eingl-Cymreig oedd Hans Busk yr hynaf (28 Mai 1772 – 8 Chwefror 1862).[1]
Hans Busk | |
---|---|
Ganwyd | 28 Mai 1772 Cymru |
Bu farw | 8 Chwefror 1862 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Tad | Wadsworth Busk |
Priod | Maria Green |
Plant | Rachel Harriette Busk, Hans Busk, Julia Clara Byrne, Sophia Æmelia Busk, Maria Georgiana Busk, Frances Rosalie Busk |
Cefndir
golyguRoedd Busk yn fab ieuengaf Syr Wadsworth Busk twrnai cyffredinol Ynys Manaw a thrysorydd y Deml Ganol, ac Alice, merch ac Etifedd Edward Parish o Ipswich a Walthamstow
Gyrfa
golyguYn ei ieuenctid treuliodd beth amser yn Rwsia, lle'r oedd yn aelod o farchogion gwarchodol Catrin Fawr.
Roedd yn berchen ar ystâd yn Glanalder, Sir Faesyfed. Mae Glanalder yn sefyll rhyw 3 milltir o Rhaeadr Gwy. Cymerodd ddiddordeb gweithredol ym musnes y sir; roedd yn ynad heddwch, ac yn uchel siryf ym 1837.[2].
Neilltuwyd amser hamdden Busk i astudiaethau clasurol a llenyddiaeth gyffredinol, a chyhoeddodd sawl cyfrol o benillion ysgafn. Roedd ei gerddi yn cynnwys teitlau fel "The Banquet", "The Dessert" a "The Vestriad". Er eu bod yn anhysbys bellach, cawsant ychydig o sylw yn eu dydd, er enghraifft adolygwyd "The Banquet" a "The Vestriad" yn y Literary Gazette, yr olaf ar y dudalen flaen.[3] Ymysg ei gyfeillion agos ym myd llên oedd Thomas Burke, Richard Brinsley Sheridan, yr Arglwydd Byron, a Walter Scott.[4]
Teulu
golyguYm mis Ebrill neu fis Mai 1814 priododd Maria, merch Joseph Green. Ei fab hynaf oedd Hans Busk yr ieuengaf. Ei ferched oedd Julia Clara Pitt Byrne; Rachel Harriette Busk; Maria Georgiana Loder, gwraig Syr Robert Loder, Barwnig 1af; Amelia Sophia Crawford (1817-1896); a Frances Rosalie Vansittart (a oedd yn ymwneud ag achos cyfreithiol pwysig Vansittart v. Vansittart yn erbyn ei gŵr yn Llys y Siawnsri). Mae'r llyfr Converts to Rome yn rhestru pob un o'i bum merch fel rhai oedd wedi cael tröedigaeth i Gatholigiaeth, er yn achos Maria Georgiana yr oedd pan oedd hi yn ei saithdegau.
Marwolaeth
golyguBu farw yn Great Cumberland Place, Hyde Park, Llundain yn 89 mlwydd oed
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Henderson, T., & Reynolds, K. (2004, September 23). Busk, Hans, the elder (1772–1862), scholar and poet. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 17 Awst 2019
- ↑ "A distinguished High Sheriff". Radnorshire Society transactions. Cylchgronau Cymru Rhif 28, 1958, tud 38–39 adalwyd 17 Awst 2019
- ↑ "Review of New Books: The Vestriad, a Poem. By Hans Busk, Esq. London, 1819". The London Literary Gazette. 3 (129): 433-435. 10 Gorffennaf 1819. Adalwyd 17 Awst 2019
- ↑ "Notitle - The Pembrokeshire Herald and General Advertiser". Joseph Potter. 1862-02-21. Cyrchwyd 2019-08-17.