Haplomitriopsida
Amrediad amseryddol:
y Permaidd cynnar i'r presennol
Llabedlys Hooker
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Enw deuenwol
Treubiopsida

Mae Haplomitriopsida yn ddosbarth newydd o lysiau'r afu sy'n cynnwys 3 genera, ac ynddynt ceir 15 rhywogaeth. Yn dilyn datblygiadau gwyddonol diweddar, yn enwedig ym maes dadansoddi mitocondria'r genynnau, gosodwyd y grŵp monoffyletig hwn yn chwaer-grŵp gwaelodol i weddill llysiau'r afu. Mae'r grŵp hwn, felly, yn agoriad llygad i'r modd yr esblygodd llysiau'r afu yn gynnar iawn yn y Permaidd cynnar.[1][2][3][4]

Disgrifiad golygu

Rhisom (neu 'wreiddgyff') tanddaearol yw'r Haplomitrium ac mae ganddo goesyn unionsyth gyda dail arno. Gosodir y dail tennau, crwm oddeutu'r coesynnau, ac mae'n edrych yn debyg i fwsogl meddal. Mae hyn yn wahanol iawn i'r Treubia, sy'n tyfu'n llorweddol, ar eu gorwedd, gyda thalws deiliog.

Ceir sawl nodwedd unigryw, sy'n gymorth i wahaniaethu'r Haplomitriopsida oddi wrth aelodau'r ddau grŵp arall o lysiau'r afu, sef y Marchantiopsida a'r Jungermanniopsida. Er enghraifft, nid oes gan y planhigion o fewn y dosbarth Haplomitriopsida wreiddflew; yn hytrach, mae ganddynt o fewn y coesynnau tyfiannol edefyn pwrpasol, gyda mân dyllau ynddo, i gludo dŵr. Mae'r edefyn canolog hwn wedi'i amgylchynu gan silindr o gelloedd sy'n danfon y dŵr a'r maethion sydd ynddo i bob rhan o'r planhigyn. Mae'r edefyn hwn, felly, yn eitha tebyg i'r sylem a'r ffloem a geir mewn planhigyn fasgwlaidd.

Dosbarthiad golygu

Mae gan y dosbarth Haplomitriopsida ddwy urdd a theulu biolegol ym mhob urdd. 15 rhywogaeth sydd yn y dosbarth cyfan, wedi'u rhannu i dri genera. Ceir 4ydd genws (y Gessella), ond ar ffurf ffosiliau o'r cyfnos Permaidd yn unig.

Y tacson

Rhywogaethau golygu

Mae'r rhestr a ganlyn yn rhywogaethau o fewn y dosbarth hwn:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Haplomitrium hookeri Haplomitrium hookeri
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau golygu

  1. Heinrichs, Jochen; S. Robbert Gradstein; Rosemary Wilson; Harald Schneider (2005). "Towards a natural classification of liverworts (Marchantiophyta) based on the chloroplast gene rbcL". Cryptogamie Bryologie 26 (2): 131–150.
  2. He-Nygrén, Xiaolan; Aino Juslén; Inkeri Ahonen; David Glenny; Sinikka Piippo (2006). "Illuminating the evolutionary history of liverworts (Marchantiophyta)—towards a natural classification". Cladistics 22 (1): 1–31. doi:10.1111/j.1096-0031.2006.00089.x.
  3. Forrest, Laura L.; Christine E. Davis; David G. Long; Barbara J. Crandall-Stotler; Alexandra Clark; Michelle L. Hollingsworth (2006). "Unraveling the evolutionary history of the liverworts (Marchantiophyta): multiple taxa, genomes and analyses". The Bryologist 109 (3): 303–334. doi:10.1639/0007-2745(2006)109[303:UTEHOT]2.0.CO;2.
  4. Renzaglia, Karen S.; Scott Schuette; R. Joel Duff; Roberto Ligrone; A. Jonathan Shaw; Brent D. Mishler; Jeffrey G. Duckett (2007). "Bryophyte phylogeny: Advancing the molecular and morphological frontiers". The Bryologist 110 (2): 179–213. doi:10.1639/0007-2745(2007)110[179:BPATMA]2.0.CO;2. https://archive.org/details/sim_bryologist_summer-2007_110_2/page/179.