Harold Abrahams
Athletwr o Loegr oedd Harold Maurice Abrahams CBE (15 Rhagfyr 1899 – 14 Ionawr 1978). Enillodd fedal aur yn y ras 100 medr yng Ngemau Olympaidd 1924, campwaith a gafodd ei bortreadu yn y ffilm 1981, Chariots of Fire.
Harold Abrahams | |
---|---|
Ganwyd | 15 Rhagfyr 1899 Bedford |
Bu farw | 14 Ionawr 1978 Enfield |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd, sbrintiwr, cyfreithiwr, newyddiadurwr |
Cyflogwr | |
Taldra | 183 centimetr |
Pwysau | 75 cilogram |
Gwobr/au | CBE |
Chwaraeon |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Abrahams i deulu tlawd ym Medford, yn fab i Lithiwaniwr Iddewig,[1] roedd yn frawd iau i athletwr arall Prydeinig, y neidiwr hir Olympaidd, Syr Sidney Abrahams. Addysgwyd yn Ysgol Bedford, Ysgol Repton ac yng Ngholeg Gonville a Caius, Caergrawnt, cyn hyfforddi fel cyfreithiwr.