Henry 'Hotspur' Percy

marchog (1364-1403)
(Ailgyfeiriad o Harri Percy)

Uchelwr o Loegr a mab hynaf Henry Percy, Iarll 1af Northumberland, oedd Syr Henry Percy, mwy adnabyddus wrth ei lysenw Hotspur neu Harry Hotspur (20 Mai 1364/136621 Gorffennaf 1403).

Henry 'Hotspur' Percy
Ganwyd20 Mai 1364 Edit this on Wikidata
Gogledd Swydd Efrog Edit this on Wikidata
Bu farw21 Gorffennaf 1403 Edit this on Wikidata
o lladdwyd mewn brwydr Edit this on Wikidata
Amwythig Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethmarchog Edit this on Wikidata
TadHenry Percy, Iarll 1af Northumberland Edit this on Wikidata
MamMargaret Neville Edit this on Wikidata
PriodElizabeth Mortimer Edit this on Wikidata
PlantHenry Percy, Elizabeth Percy Edit this on Wikidata
Llinachteulu Percy Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Gardas, Marchog Faglor Edit this on Wikidata
Mae Hotspur yn ailgyfeirio i'r dudalen hon. Gweler hefyd Hotspur (gwahaniaethu).

Bywgraffiad

golygu

Ganed ef yng nghastell Spofforth yn Northumberland. Daeth yn amlwg fel rhyfelwr, gan ymladd yn erbyn yr Alban a Ffrainc. Yn Awst 1388, gorchfygwyd ef a'i gymeryd yn garcharor ym Mrwydr Otterburn gan fyddin Albanaidd dan James Douglas, 2il Iarll Douglas. Bu'n Llywodraethwr Bordeaux o 1393 hyd 1395. Wedi dychwelyd o Ffrainc, cynorthwyodd ei dad i ddiorseddu Rhisiart II, brenin Lloegr a rhoi Henry o Bolingbroke ar yr orsedd fel Harri IV.

 
Brwydr yr Amwythig; darlun allan o A tour in Wales gan Thomas Pennant (1726-1798)

Yn 1403, gwrthryfelodd ef a'i ewythr, Thomas Percy, Iarll Caerwrangon, yn erbyn Harri IV, a gwnaeth gytundeb ag Owain Glyndŵr. Cyn iddo fedru ymuno â lluoedd Glyn Dŵr, lladdwyd ef ym Mrwydr Amwythig yn erbyn y brenin. Dywedir fod ei fyddin yn trechu byddin y brenin, ond cododd Hotspur ddarn gwyneb ei helm, a tharawyd ef gan saeth, a'i ladd yn y fan.[1] Heb eu harweinydd, ffôdd ei fyddin.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Barratt, John (2010). War for the Throne, the Battle of Shrewsbury (yn Saesneg). Pen and Sword Books. t. 97. ISBN 978-1-84884-028-7.