Harriet Tubman
Cefnogwr diddymu caethwasiaeth ac actifydd gwleidyddol o'r Unol Daleithiau oedd Harriet Tubman (ganed yn Araminta Ross, 29 Ionawr 1822 – 10 Mawrth 1913). Ganwyd hi yn gaethwas ond fe ddihangodd a wedyn mynd ati ryw 13 o weithiau i achub tua 70 o gaethweision eraill, gan gynnwys ei theulu a'i chyfeillion.[1] Roedd hi'n defnyddio'r rhwydwaith o actifyddion gwrthgaethwasiaeth a thai diogel o'r enw yr Underground Railroad. Yn nes ymlaen, bu'n helpu'r diddymwr caethwasiaeth John Brown i recriwtio dynion am ei ymosodiad ar Harpers Ferry. Yn ystod Rhyfel Cartref America, gweithiodd fel sgowt ac ysbïwr arfog i Fyddin yr Unol Daleithiau. Tua diwedd ei hoes, roedd Tubman yn actifydd dros y bleidlais i ferched.
Harriet Tubman | |
---|---|
Ganwyd | Araminta Ross 6 Mawrth 1822 Dorchester County |
Bu farw | 10 Mawrth 1913 Auburn |
Man preswyl | Dorchester County, Auburn |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | llenor, nyrs, amddiffynnwr hawliau dynol, diddymwr caethwasiaeth, gweithredydd gwleidyddol, ysbïwr, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, ffeminist |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Priod | John Tubman |
Gwobr/au | 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Neuadd Enwogion New Jersey, Gwobr 'Hall of Fame' Merched Maryland |
llofnod | |
Ganwyd hi i gaethwasiaeth yn Dorchester County, Maryland. Arferai gael ei churo a'i chwipio gan ei meistri gwahanol yn ystod ei phlentyndod a chafodd anaf difrifol i'w phen unwaith pan daflodd un perchennog dig bwysyn metel trwm at gaethwas arall ond bwrw Harriet yn ei le. O ganlyniad i hyn, roedd Tubman yn dioddef o'r bendro, poen a phyliau o orgysgu am weddill ei bywyd. Cristnoges ymroddedig oedd hi ac roedd hi'n cael gweledigaethau rhyfedd a breuddwydion bywiog iawn yr oedd hi'n eu priodoli i Dduw.
Yn 1849, dihangodd Tubman i Philadelphia, ac yna dychwelyd yn syth i Maryland i achub ei theulu. Yn raddol a fesul un, daeth â pherthynasau gyda hi allan o'r dalaith, ac yn y pen draw, llwyddodd i helpu ugeiniau o gaethweision eraill i gael eu rhyddid. Oherwydd hyn, câi ei galw'n "Moses". Wrth deithio dros nos yn dawel fach, "ni fu i Tubman golli'r un teithiwr". Wedi i Ddeddf Caethweision Ar Ffo gael ei derbyn yn 1850, helpodd arwain y ffoaduriaid yn bellach i'r gogledd i Ogledd America Prydeinig ac yna dod o hyd i waith iddynt. Cyfarfu Tubman â'r cefnogwr diddymu caethwasiaeth John Brown yn 1858, a gweithiodd gydag ef i gynllunio a recriwtio cefnogwyr ar gyfer yr ymosodiad ar Harpers Ferry.
Pan ddechreuodd y Rhyfel Cartref, bu i Tubman weithio i Fyddin yr Undeb, fel cogyddes a nyrs yn gyntaf a wedyn fel sgowt ac ysbïwr arfog. Hi oedd y wraig gyntaf i arwain ymgyrch arfog yn y rhyfel, a arweiniodd yn Combahee Ferry ac a ryddhaodd fwy na 700 o gaethweision. Ar ôl y rhyfel, ymddeolodd i'r cartref teuluol a brynodd yn Aurburn, Efrog Newydd, yn 1859 a bu iddi ofalu am ei rhieni oedrannus yno. Roedd hi'n weithgar yn y mudiad i roi'r bleidlais i ferched nes i salwch fynd yn drech na hi ac roedd hi'n gorfod mynd i mewn i'r artref i hen Americanwyr Affricanaidd yr oedd hi wedi helpu i'w sefydlu flynyddoedd gynt. Wedi iddi farw yn 1913, daeth yn eicon o ddewrder a rhyddid i bobl.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Larson, p. xvii.