Harrison Birtwistle
Cyfansoddwr Seisnig oedd Syr Harrison Birtwistle (15 Gorffennaf 1934 – 18 Ebrill 2022). Mae'n arbennig o adnabyddus am ei operâu. Gall ei gerddoriaeth gain fod yn anghyseinedd ac yn heriol ond mae hefyd yn cael effaith emosiynol bwerus.[1]
Harrison Birtwistle | |
---|---|
Ganwyd | 15 Gorffennaf 1934 Accrington |
Bu farw | 18 Ebrill 2022 Mere |
Label recordio | Deutsche Grammophon |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfansoddwr, athro cerdd, cyfansoddwr cerddoriaeth ffilm |
Cyflogwr | |
Arddull | opera |
Gwobr/au | chevalier des Arts et des Lettres, Gwobr Grawemeyer, Wihuri Sibelius Prize, Ernst von Siemens Music Prize, Grawemeyer Award for Music Composition, Cydymaith Anrhydeddus, Marchog Faglor, Royal Philharmonic Society Award (Chamber-Scale Composition), Royal Philharmonic Society Award (Large-Scale Composition), Royal Philharmonic Society Award (Large-Scale Composition), Royal Philharmonic Society Award (Chamber-Scale Composition), Royal Philharmonic Society Award (Chamber-Scale Composition) |
Fe'i ganwyd yn nhref Accrington, Swydd Gaerhirfryn. Ym 1952 enillodd ysgoloriaeth fel clarinetydd i Goleg Cerdd Brenhinol Manceinion, ble ffurfiodd grŵp a ymddiddorai mewn cerddoriaeth gyfoes gyda Peter Maxwell Davies, Alexander Goehr, Elgar Howarth a John Ogdon. Wedyn cwblhaodd ddwy flynedd o Wasanaeth Cenedlaethol gyda'r Magnelwyr Brenhinol fel aelod o seindorf filwrol. Roedd yn gyfarwyddwr cerddoriaeth yn Ysgol Cranbourne Chase, Dorset, o 1962 i 1965, cyn ennill Cymrodoriaeth Harkness i astudio ym Mhrifysgol Princeton, Unol Daleithiau America. O 1975 hyd 1983 roedd yn gyfarwyddwr cerddoriaeth i'r Theatr Genedlaethol, Llundain. Cafodd ei urddo'n farchog ym 1988.
Gweithiau cerddorol
golyguOpera
golygu- Punch and Judy (1966–7)
- Down by the Greenwood Side (1968–9)
- The Mask of Orpheus (1973–84)
- Yan Tan Tethera (1883–4)
- Gawain (1990)
- The Second Mrs Kong (1993–4)
- The Last Supper (2000)
- The Io Passion (2003)
- The Minotaur (2008)
- The Corridor (2009)
- The Cure (2014–15)
Cerddorfaol
golygu- The Triumph of Time (1971–2)
- Silbury Air (1976–7)
- Panic (1995)
- Responses (2013–14)
- Deep Time (2016)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Allen, David (18 April 2022). "Harrison Birtwistle, Fiercely Modernist Composer, Dies at 87". The New York Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 Ebrill 2022.