Gorfodaeth filwrol yn y Deyrnas Unedig
Bu dau gyfnod o orfodaeth filwrol yn y Deyrnas Unedig yn yr ugeinfed ganrif. Y cyntaf oedd o 1916 i 1920 bu'r ail rhwng 1939 a 1960 gyda'r gorfodogion olaf yn cael eu rhyddhau o wasanaeth ym 1963. Galwyd gorfodaeth 1916 -1920 yn Wasanaeth milwrol. Cyfeiriwyd at orfodaeth rhwng 1939 a 1948 fel Gwasanaeth Rhyfel ac o 1949 fe'i galwyd yn Wasanaeth Cenedlaethol.
Math | Gorfodaeth filwrol |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y Rhyfel Byd Cyntaf
golyguCychwynnodd gwasanaeth gorfodol yn ystod cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf pan basiodd llywodraeth Prydain Deddf Gwasanaeth Milwrol 1916[1]. Nododd y ddeddf fod dynion sengl rhwng 18 a 40 oed yn agored i gael eu galw am wasanaeth milwrol oni bai eu bod yn dynion gweddw gyda phlant neu'n weinidogion crefyddol. Bu system o Dribiwnlysoedd Gwasanaeth Milwrol i ddyfarnu ar hawliadau am eithriad ar sail cyflawni gwaith sifil o bwysigrwydd cenedlaethol, caledi domestig, iechyd a gwrthwynebiad cydwybodol[2]. Aeth y gyfraith trwy nifer o newidiadau cyn i'r rhyfel ddod i ben. Roedd dynion priod wedi'u heithrio yn y Ddeddf wreiddiol, er y cafodd hyn ei newid ym mis Mehefin 1916. Codwyd y terfyn oedran yn y pen draw i 51 oed. Cafodd cydnabyddiaeth o waith o bwysigrwydd cenedlaethol ei dynhau, ac yn ystod blwyddyn olaf y rhyfel bu rhywfaint o gefnogaeth i'r syniad o beidio ac eithrio clerigwyr[3]. Parhaodd gorfodaeth filwrol hyd ganol 1919. Oherwydd y sefyllfa wleidyddol yn Iwerddon, ni chafodd gorfodaeth ei ddefnyddio yno; dim ond yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Yr Ail Ryfel Byd
golyguDaeth ddeddfwriaeth gorfodaeth filwrol y Rhyfel Byd Cyntaf i ben ym 1920. O ganlyniad i sefyllfa ryngwladol a oedd yn dirywio a chynnydd yr Almaen Natsïaidd, perswadiodd Leslie Hore-Belisha, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel, cabinet Neville Chamberlain i gyflwyno ffurf gyfyngedig o orfodaeth filwrol ar 27 Ebrill 1939, gyda'r Ddeddf Hyfforddi Filwrol yn cael ei basio'r mis canlynol[4].
Dim ond dynion sengl rhwng 20 a 22 oed oedd yn agored i gael eu galw, ac roeddent yn cael eu galw'n "dynion milisia" i'w gwahaniaethu o'r fyddin reolaidd. Er mwyn pwysleisio'r gwahaniaeth hwn, rhoddwyd siwt i bob dyn yn ogystal ag arfwisg. Y bwriad oedd i'r gorfodogion cael chwe mis o hyfforddiant sylfaenol cyn eu rhyddhau i mewn i'r fyddin wrthgefn. Yna byddant yn cael eu galw'n ôl am gyfnodau hyfforddi byr ac yn mynychu gwersylloedd blynyddol.
Ar ddechrau'r rhyfel, ar 3 Medi 1939, cafodd y Ddeddf Hyfforddi Filwrol ei ddisodli gan y Ddeddf Gwasanaeth Cenedlaethol (Lluoedd Arfog). Cafodd gorfodogion y ddeddf hyfforddi, eu hamsugno i'r fyddin. Roedd y ddeddf yn osod dyletswydd o wasanaeth milwrol gorfodol ar bob dyn rhwng 18 a 41 oed. Gellid gwrthod dynion am resymau meddygol, ac roedd y rhai a oedd yn ymwneud â diwydiannau neu alwedigaethau hanfodol yn cael eu neilltuo.
O 1943, danfonwyd rhai o’r gorfodogion i weithio yn y pyllau glo. Galwyd y gorfodogion a oedd yn gweithio yn y pyllau yn "Bevin Boys". Gwnaed darpariaeth hefyd i wrthwynebwyr cydwybodol, roedd yn ofynnol iddynt gyfiawnhau eu safbwynt i dribiwnlys, gyda phŵer i ddyrannu'r ymgeisydd i un o dri chategori: rhai ag eithriad diamod; eithriad yn amodol ar berfformio gwaith sifil penodedig (gwaith ffermio, gwaith coedwigaeth neu waith mewn ysbyty fel arfer); eithriad o wasanaeth arfog yn unig, a oedd yn golygu bod rhaid i'r gwrthwynebwyr wasanaethu yn y Corfflu Heb Arfau a grëwyd yn arbennig ar eu cyfer neu mewn adran anarfog arall megis Corfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin.
Erbyn 1942 roedd pob dinesydd gwrywaidd Prydeinig rhwng 18 a 51 oed a phob merch rhwng 20 a 30 oed a oedd yn byw ym Mhrydain yn agored i gael eu galw, gyda rhai eithriadau:
- Dinasyddion Prydeinig o du allan i Brydain ac Ynys Manaw a fu'n byw yn y wlad am lai na dwy flynedd
- Heddlu, gweithwyr meddygol a swyddogion carchar
- Pobl o Ogledd yr Iwerddon
- Myfyrwyr
- Personau a gyflogwyd gan lywodraeth unrhyw wlad yn yr Ymerodraeth Brydeinig ac eithrio'r Deyrnas Unedig
- Gweinidogion ac offeiriaid o unrhyw enwad
- Y rhai oedd yn ddall neu'n dioddef anhwylderau meddyliol
- Merched priod
- Merched oedd ag un neu ragor o blant 14 oed neu'n iau yn byw gyda nhw. Roedd hyn yn cynnwys eu plant eu hunain, plant cyfreithlon neu anghyfreithlon, plant maeth a phlant mabwysiedig, cyhyd â bod y plentyn wedi'i fabwysiadu cyn 18 Rhagfyr 1941.
Ni chafodd merched beichiog eu heithrio, ond yn ymarferol ni chawsant eu galw i fyny[5].
Yn wreiddiol, nid oedd dynion dan 20 oed yn cael eu hanfon dramor, ond codwyd yr eithriad hwn ym 1942. Os oedd dyn yn cael ei alw i wasanaethu cyn ei fod yn 51 mlwydd oed ac yn cyrraedd 51 yn ystod cyfnod ei wasanaeth roedd rhaid iddo barhau i wasanaethu hyd ddiwedd y rhyfel.
Roedd pobl oedd wedi ymddeol, wedi ymddiswyddo neu wedi cael eu diswyddo o'r lluoedd cyn y rhyfel yn cael eu galw'n ôl i wasanaeth os nad oeddent wedi cyrraedd 51 mlwydd oed.
Ni wnaeth Prydain dadfyddino yn llwyr ym 1945, a wnaeth gorfodaeth barhau ar ôl y rhyfel. Rhoddwyd rhyddhad i'r rhai oedd eisoes yn y lluoedd arfog wedi ei benderfynu ar hyd eu gwasanaeth a'u hoedran. Yn ymarferol, dechreuwyd rhyddhau pobl ym mis Mehefin 1945, a rhyddhawyd y rhan fwyaf o'r gorfodogion y rhyfel erbyn 1949.
Wedi 1945
golyguLluniwyd Gwasanaeth Cenedlaethol, gwasanaeth milwrol gorfodol wedi'r rhyfel gan Ddeddf Gwasanaeth Cenedlaethol 1948. O 1 Ionawr 1949, disgwyliwyd i ddynion iach 17 i 21 oed wasanaethu yn y lluoedd arfog am gyfnod o 18 mis, ac aros ar restr o filwyr wrth gefn am bedair blynedd. Gellid eu galw'n ôl i'w catrawd am hyd at 20 diwrnod ar ddim mwy na thri achlysur yn ystod y pedair blynedd hynny. Roedd dynion yn cael eu heithrio o Wasanaeth Cenedlaethol pe baent yn gweithio mewn un o'r tri "gwasanaeth hanfodol": mwyngloddio glo, ffermio a'r llynges fasnachol am gyfnod o wyth mlynedd. Pe baent yn rhoi'r gorau i'r gwaith yn gynnar, roeddent yn ddarostyngedig i gael eu galw i'r lluoedd. Parhaodd yr eithriadau i wrthwynebwyr cydwybodol, gyda'r un system a'r categorïau tribiwnlys a bodolai yn ystod yr ail ryfel byd[6].
Ym mis Hydref 1950, mewn ymateb i ran Prydain yn Rhyfel Corea, estynnwyd cyfnod y gwasanaeth i ddwy flynedd a gostyngwyd y cyfnod wrth gefn i 3 mlynedd 6 mis. Roedd modd comisiynu milwyr Gwasanaeth Cenedlaethol a oedd yn dangos addewid yn swyddogion. Defnyddiwyd milwyr Gwasanaeth Cenedlaethol mewn ymgyrchoedd arfog gan gynnwys Argyfwng Maleisia, Argyfwng Cyprus, yn Cenia yn erbyn y Mau Mau, Rhyfel Corea ac Argyfwng Suez.
Yn ystod y 1950au roedd gwaharddiad ar aelodau o'r lluoedd arfog rhag sefyll ar gyfer etholiad i'r Senedd. Gwnaeth rai Gwasanaethwyr Cenedlaethol sefyll etholiadau cyffredinol 1951 a 1955 er mwyn cael eu diarddel o'r gwasanaeth. Roedd disgyblion ysgol a oedd yn cyrraedd 17 cyn i'w cyfnod yn yr ysgol dod i ben cael gohirio ymuno a'r lluoedd ac os oeddynt yn cael lle mewn prifysgol roedd modd gohirio hyd ddiwedd eu cyfnod coleg.
Daeth Gwasanaeth Cenedlaethol i ben yn raddol o 1957. Penderfynwyd na fyddai raid i'r sawl a anwyd ar neu wedi 1 Hydref 1939 gwasanaethu. Roedd y sawl a anwyd cyn 1 hydref 1939 a chafodd ohiriad i'w gwasanaeth yn gorfod cyflawni eu dyletswydd. Ymunodd y rhai olaf i gael eu gorfodi a'r lluoedd ym mis Tachwedd 1960 ac fe ymadawodd y Gwasanaethwyr Cenedlaethol olaf a'r lluoedd ym mis Mai 1963.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ The Military Service Act 1916 - HL/PO/PU/1/1916/5&6G5c104
- ↑ CALLED TO ACTIVE SERVICE Archifwyd 2009-02-09 yn y Peiriant Wayback adalwyd 16 Mawrth 2018
- ↑ Chelmsford, J. E. "Clergy and Man-Power", The Times 15 Ebrill 1918, tud. 12
- ↑ BBC History Conscription Introduced adalwyd 16 Mawrth 2018
- ↑ Simkin, John (August 2014). "Conscription". Spartacus Educational.
- ↑ BBC History The Peacetime Conscripts: National Service in the Post-war Years adalwyd 16 Mawrth 2018