18 Ebrill
dyddiad
<< Ebrill >> | ||||||
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su |
1 | 2 | 3 | 4 | 5 | ||
6 | 7 | 8 | 9 | 10 | 11 | 12 |
13 | 14 | 15 | 16 | 17 | 18 | 19 |
20 | 21 | 22 | 23 | 24 | 25 | 26 |
27 | 28 | 29 | 30 | |||
2020 | ||||||
Rhestr holl ddyddiau'r flwyddyn |
18 Ebrill yw'r wythfed dydd wedi'r cant (108fed) o'r flwyddyn yng Nghalendr Gregori (109fed mewn blynyddoedd naid). Erys 257 diwrnod arall hyd ddiwedd y flwyddyn.
Digwyddiadau
golygu- 1906 - Trawyd San Francisco, Califfornia gan ddaeargryn a ddilynwyd gan dân. Dinistriwyd rhannau helaeth o'r ddinas, a lladdwyd o leiaf 3,000 o bobl.
- 1949 - Daeth Deddf Gweriniaeth Iwerddon (1948), a basiwyd gan senedd yr Iwerddon (Oireachtas Éireann), i rym yn creu gweriniaeth yn Iwerddon ac yn tynnu'n ôl aelodaeth Iwerddon o'r Gymanwlad.
- 1980 - Sefydlwyd Gweriniaeth Simbabwe.
Genedigaethau
golygu- 1480 - Lucrezia Borgia, gwraig fonheddig Eidalaidd (m. 1519)
- 1590 - Ahmed I, ymerawdwr Twrci (m. 1617)
- 1772 - David Ricardo, economegydd (m. 1823)
- 1797 - Adolphe Thiers, gwleidydd (m. 1877)
- 1819 - Franz von Suppé, cyfansoddwr (m. 1895)
- 1857 - Clarence Darrow, cyfreithiwr (m. 1938)
- 1882 - Leopold Stokowski, cerddor (m. 1977)
- 1883 - Clara Elsene Peck, arlunydd (m. 1968)
- 1902 - Giuseppe Pella, Prif Weinidog yr Eidal (m. 1981)
- 1905 - George H. Hitchings, meddyg (m. 1998)
- 1922 - Anne Daubenspeck-Focke, arlunydd (m. 2021)
- 1927
- Samuel P. Huntington, gwyddonydd gwleidyddol (m. 2008)
- Tadeusz Mazowiecki, gwleidydd (m. 2013)
- 1941 - Michael D. Higgins, Arlywydd Iwerddon
- 1945 - Margaret Hassan, gweithiwr cymorth (m. 2004)
- 1946 - Hayley Mills, actores
- 1947 - James Woods, actor
- 1950 - Kenny Ortega, cynhyrchydd, cyfarwyddwr a choreograffwr
- 1954 - Rick Moranis, actor a chomedïwr
- 1961 - Jane Leeves, actores
- 1969 - Sayako Kuroda, gwyddonydd
- 1971 - David Tennant, actor
- 1973 - Haile Gebrselassie, athletwr
- 1976 - Melissa Joan Hart, actores
- 1984 - America Ferrera, actores
Marwolaethau
golygu- 1689 - George Jeffreys, Arglwydd Canghellor, 43
- 1731 - Giovanna Fratellini, arlunydd, 65
- 1802 - Erasmus Darwin, athronydd natur a bardd, 70
- 1832 - Jeanne-Elisabeth Chaudet, arlunydd, 69
- 1849 - Hokusai, arlunydd, 88
- 1955 - Albert Einstein, ffisegydd, 76
- 1964 - Marguerite Charrier-Roy, arlunydd, 95
- 1993 - Elisabeth Frink, arlunydd, 62
- 2002 - Thor Heyerdahl, ethnograffwr ac anturiaethwr, 87
- 2004 - Geraint Howells, gwleidydd, 79
- 2008 - Elizabeth McCord, arlunydd, 94
- 2013 - Storm Thorgerson, 69
- 2018 - Dale Winton, cyflwynydd teledu, 62
- 2019 - Lyra McKee, newyddiadurwraig, 29
- 2020 - Edward Millward, gwleidydd ac academydd, 89
- 2022 - Syr Harrison Birtwistle, cyfansoddwr, 87