Harry Packer
Roedd Harry Packer (9 Medi 1868 - 25 Mai 1946) yn brop undeb rygbi rhyngwladol a chwaraeodd rygbi clwb i Gasnewydd ac a gafodd ei gapio saith gwaith i Gymru. Roedd gan Packer gysylltiad hir â rygbi, fel chwaraewr, dewiswr, swyddog ac ym 1924 roedd yn rheolwr ar dîm teithiol Ynysoedd Prydain i Dde Affrica.
Dyddiad geni | 3 Medi 1868 | ||
---|---|---|---|
Man geni | Chipping Norton,Swydd Rydychen [1] | ||
Dyddiad marw | 25 Mai 1945 | (76 oed)||
Lle marw | Casnewydd, | ||
Taldra | 5' 11" | ||
Pwysau | 13 st. | ||
Ysgol U. | Devon County School West Buckland School, Barnstaple | ||
Gwaith | Cyfanwerthwr bwydydd | ||
Gyrfa rygbi'r undeb | |||
Gyrfa'n chwarae | |||
Safle | Prop | ||
Clybiau amatur | |||
Blynyddoedd | Clwb / timau | ||
1886-1887 1888-1889 1889-1901 |
Casnewydd Reading F.C. Casnewydd | ||
Timau cenedlaethol | |||
Blynydd. | Clybiau | Capiau | |
1891–1897 | Cymru | 7 | (0) |
Cefndir
golyguGanwyd Packer yn Chipping Norton, Swydd Rhydychen yn fab i John Packer, teithiwr masnachol ac Ellen ei wraig. Symudodd y teulu o Rydychen i ymsefydlu yng Nghasnewydd pan oedd Harry tua 2 oed. Derbyniodd ei addysg mewn dwy ysgol breswyl yn Nyfnaint gan chwarae rygbi ar lefel bechgyn ysgol i Swydd Ddyfnaint ac Ysgol West Buckland.
Gyrfa rygbi
golyguAr ôl ymadael a'r ysgol daeth yn rhan o dîm Casnewydd gan chware i'r tîm yn nhymhorau 1886 a 1887. Yn 1887 symudodd gyda'i waith i Reading, Berkshire a bu'n chware am ddau dymor gyda thîm pêl-droed y gymdeithas yno.[2] Dychwelodd i dref a chlwb rygbi Casnewydd ym 1889. Dewiswyd ef i gynrychioli Cymru fel rhan o Bencampwriaeth y Pedair Gwlad 1891. O dan gapteiniaeth William Bowen, roedd Packer yn rhan o’r garfan a wynebodd Loegr yng Nghasnewydd yng ngêm agoriadol yr ymgyrch, ond ar ôl i Gymru golli, cafodd Packer ei ollwng o’r tîm. Byddai'n cymryd pedwar tymor i Packer gael ei ail-ddewis, pan gafodd ei ddewis ar gyfer ail a thrydedd gêm Pencampwriaeth 1895 y tro hwn dan arweiniad Arthur Gould. Collodd Cymru gêm yn erbyn yr Alban, ond profodd Packer ei fuddugoliaeth ryngwladol gyntaf yn y gêm yn erbyn Iwerddon ym Mharc yr Arfau Caerdydd.
Dewiswyd Packer ar gyfer holl gemau Pencampwriaeth 1896, ac roedd yn un o ddim ond tri chwaraewr o'r pac i'w cadw ar gyfer gêm yr Alban pan ddaeth y dewiswyr â phum cap newydd i mewn. Chwaraeodd Packer ei gêm ryngwladol olaf y flwyddyn olynol mewn buddugoliaeth gofiadwy yn erbyn Lloegr. Hon fyddai unig gêm y flwyddyn i Gymru ar ôl i'r tîm golli eu statws chwarae rhyngwladol oherwydd y Achos Gould
Yn ogystal â rygbi roedd Packer hefyd yn cystadlu'n frwd mewn rasys seiclo.[3]
Ym 1924 dewiswyd Packer i reoli tîm Prydain ar eu taith o amgylch De Affrica.
Gemau rhyngwladol
golyguCymru [4]
Llyfryddiaeth
golygu- Alcock, C.W.; Hill, Rowland (1997). Famous Rugby Footballers 1895. Horefield: Yore Publications. ISBN 1-874427-42-9.
- Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883-1983. London: Willows Books. ISBN 0-00-218060-X.
- Griffiths, Terry (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. London: Phoenix House. ISBN 0-460-07003-7.
- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Newport player profiles Archifwyd 17 Mehefin 2011 yn y Peiriant Wayback
- ↑ "THE WELSH FIFTEEN - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1896-01-04. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ "CYCLE RACES - The Pembrokeshire Herald and General Advertiser". Joseph Potter. 1890-08-22. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ Smith (1980), tud. 470.