Haverigg
pentref yn Cumbria
Pentref yn Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, ydy Haverigg.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Millom yn awdurdod unedol Cumberland.
Math | pentref, ward |
---|---|
Ardal weinyddol | Millom |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cumbria (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 54.1972°N 3.2891°W |
Cod SYG | E05003193 |
Cod OS | SD160787 |
Cod post | LA18 |
Saif Haverigg 1.3 milltir (2.1 km) i'r gorllewin o Millom, ar lannau aber Afon Duddon, ardal warchodedig sy'n bwysig i adar a bywyd gwyllt arall. Mae ganddi draeth baner las a gorsaf bad achub annibynnol, Haverigg Inshore Rescue Team.
Mae Carchar EM Haverigg, carchar categori C/D ar gyfer dynion, wedi'i leoli yn y pentref. Fe'i hagorwyd ym 1967 ar safle hen ganolfan hyfforddi yr RAF.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 21 Medi 2018
Oriel
golygu-
Yr angorfa yn aber y nant Haverigg Pool
-
Traeth Haverigg
-
Gorsaf bad achub Haverigg Inshore Rescue Team
-
Ffens perimedr Carchar Haverigg