Hawys Lestrange
Uchelwraig Cymreig oedd Hawys Lestrange (bu farw Tachwedd 1310), merch John Lestrange Arglwydd Cnwcin, a fu farw tua 1269. Priododd Gruffudd ap Gwenwynwyn, Arglwydd Powys Uchaf, (bu farw 1286) rywbryd cyn 1242. Cafodd Gruffudd ganiatâd brenhinol i agweddu tir yn Ashford i Hawis ym 1242.[1] Ganwyd iddynt chwe mab ac un ferch:
- Margaret (bu farw 11 Mai 1336) a briododd Fulk FitzWarin, Arglwydd Whittington, sir Amwything
- Owain, priododd Joan Corbet. Etifeddodd Cyfeiliog ac Arwystli.
- Llywelyn, priododd Sybil Turberville, gweddw Grimbald Pauncefoot, un o farchogion Edward I
- Gruffudd Fychan, priododd berthynas I Roger Springhose o Swydd Amwythig
- Gwilym, priododd Gwladus
- Dafydd, clerigwr
- Ieuan, clerigwr
Hawys Lestrange | |
---|---|
Ganwyd | 13 g |
Bu farw | 1310 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Tad | John Lestrange, John (II) Lestrange |
Mam | Lucy Tregoz, Amice |
Priod | Gruffudd ap Gwenwynwyn |
Plant | Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn, Margred 'de La Pole' o Gymru, Dafydd ap Gruffudd ap Gwenwynwyn ab Owain, Llywelyn ap Gruffudd ap Gwenwynwyn, Gwilym ap Gruffudd ap Gwenwynwyn |
Roedd Gruffudd yn deyrngar iawn i goron Lloegr, a chafodd ei wobrwyo am ei deyrngarwch. Adroddir i Hawys dderbyn dau garw oddi wrth y brenin ym 1248, efallai am ei gwasanaeth hithau[2]. Bu'n rhaid i'r teulu ffoi pan ymosododd Llywelyn ap Gruffudd, tywysog Gwynedd ar dde Powys. Trodd Gruffudd ei gefn ar y goron yn fuan wedi hyn, o ganlyniad i ddiffyg cefnogaeth gan y brenin, a throi i gefnogi Llywelyn ym 1263, ond erbyn 1274 roedd eto'n gadarn o blaid y brenin, gan gymeryd rhan flaenllaw yng nghynllwyn Dafydd ap Gruffydd i lofruddio ei frawd Llywelyn. Mae cyffesiad ei mab Owain i Esgob Bangor yn dangos yn glir bod Hawys wedi bod a rhan fawr yn y cynllwyn, gan iddi guddio dogfennaeth y cynllun yn ddiogel dan glo yn eu cartref. Bu'n rhaid i Gruffydd a'i deulu ddianc i Loegr wedi i Lywelyn ddarganfod cysylltiad y teulu a'r digwyddiad, gan ymsefydlu yn yr Amwythig.
Sicrhaodd Gruffudd bod agweddi ei wraig yn ddiogel. Cyhoeddodd siarter i'w wraig ym 1277, a oedd yn nodi ei rhan o drefgordd Tal-y-bont, cymydau Deuddwr a Chaereinion, a thiroedd yng Nghyfeiliog ac Arwystli.[3] Bu Hawys yn weithgar yn rheoli stadau'r teulu yn y 1270au. Cymerodd feddiant o faenor Church Stretton yn ystod absenoldeb ei brawd Hamon Lestrange yn ystod croesgad 1270. Bu ef farw, a chipiwyd y stad gan y brenin Edward I, ond dychwelwyd yr ystad iddi ym 1276.[4] Parhaodd i reoli'r stadau tan tua 1308, pan drosglwyddodd y cyfrifoldeb am y farwniaeth i'w mab Gruffudd Fychan.
Llyfryddiaeth
golygu- Oxford Dictionary of National Biography
- Y Bywgraffiadur Cymreig
- Bridgeman, G. T. O. (1868). "The Princes of Upper Powys". Montgomeryshire Collections (Longman, Green, Longman, and Roberts) I: 201. http://books.google.com/?id=kjcGAAAAQAAJ&pg=PA201. Adalwyd 2015-10-16.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Emma Cavell, Welsh princes, English wives: the politics of Powys Wenwynwyn revisited, Cylchgrawn Hanes Cymru, 27/2 (2014), t. 229
- ↑ Rolls, Henry III, 1227–1272, t. 78
- ↑ Cavell, 'Welsh princes, English wives', t. 242
- ↑ Cavell, 'Welsh princes, English wives', t. 239