Caereinion
Un o gantrefi Cymru'r Oesoedd Canol oedd Caereinion. Roedd yn gorwedd yn ne Teyrnas Powys (Powys Wenwynwyn yn ddiweddarach), sef canolbarth sir Powys heddiw. Rhed afon Banwy trwy ei ganol. Cyfeirir ato yn nogfennau diweddarach fel cwmwd, ond ymddengys ei bod yn gantref ar y dechrau.
Gorweddai'r cantref ym mryniau Powys rhwng Cedewain ac Arwystli i'r de, Cyfeiliog a Mawddwy i'r gorllewin, Mochnant a Mechain i'r gogledd, ac Ystrad Marchell a'r Llannerch Hudol i'r dwyrain.
Mathrafal, safle traddodiadol brenhinoedd Powys ar lan afon Banwy, oedd prif ganolfan weinyddol y cantref a'r deyrnas.
Prif ganolfan eglwysig y cantref oedd Llanfair Caereinion. Gerllaw ceir hen amddiffynfa Caereinion a gysylltir, yn ôl traddodiad, ag Einion Yrth, un o feibion Cunedda, a ymsefydlodd yno yn y 5g. Yng Nghaereinion nefyd y codwyd castell mwnt a beili ar safle Castell Caereinion gan Madog ap Maredudd o Bowys yn 1156.