Chwaraewr Rygbi'r Undeb Cymreig oedd Haydn Tanner (9 Ionawr 19175 Mehefin 2009). Enillodd 25 o gapiau dros Gymru fel mewnwr.

Haydn Tanner
Haydn Tanner ar fin sgorio yn erbyn Seland Newydd, Abertawe v Seland Newydd, 29 Hydref 1945
Ganwyd9 Ionawr 1917 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mehefin 2009 Edit this on Wikidata
Caerlŷr Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auClwb Rygbi Caerdydd, Y Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Clwb Rygbi Abertawe, Bristol Bears, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Edit this on Wikidata
SafleMewnwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Ganed Tanner ym Mhenclawdd ac addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Gowerton. Roedd yn dal yn ddisgybl yno pan chwaraeodd i Abertawe yn erbyn y Crysau Duon yn St. Helens yn 1935. Enillodd Abertawe y gêm o 11 pwynt i 3, gyda Tanner a'i gefnder Willie Davies yn chwarae'n arbennig o dda. Neges capten y Crysau Duon, Jack Manchester, i'w gyrru'n ôl i Seland Newydd oedd "Dywedwch wrthyn nhw ein bod ni wedi colli, ond peidiwch â dweud ein bod wedi cael ein curo gan bàr o fechgyn ysgol!"

Ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn enillodd Tanner ei gap cyntaf dros Gymru. Roedd yn 18 mlwydd ac 11 mis oed, ac un un o'r chwaraewyr ieuengaf i ymddangos dros Gymru. Roedd y gêm yma eto yn erbyn y Crysau Duon, ac unwaith eto roedd tîm Tanner yn fuddugol. Aeth ymlaen i ennill 25 o gapiau, er i'r Ail Ryfel Byd dorri ar ei yrfa. Roedd ei gêm ryngwladol olaf yn erbyn Ffrainc yn 1949.

Aeth Tanner ar daith i Dde Affrica gyda'r Llewod Prydeinig yn 1938 a chwaraeodd ymhob un o'r tair gêm brawf.