Helen Cruickshank
Bardd, ffeminist a swffragét o'r Alban oedd Helen Burness Cruickshank (15 Mai 1886 - 2 Mawrth 1975) sydd hefyd yn cael ei chofio fel bardd. dywedir mai ei chartref ym mhentref bychan Corstorphine, gorllewin Caeredin, oedd pencadlys yr ymgyrch dros hawliau merched yn yr Alban.[1]
Helen Cruickshank | |
---|---|
Ganwyd | 15 Mai 1886 Montrose |
Bu farw | 2 Mawrth 1975 Caeredin |
Dinasyddiaeth | Yr Alban |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, llenor, swffragét |
Mudiad | Dadeni'r Alban |
Fe'i ganed yn Monadh Rois (Montrose) a bu farw yng Nghaeredin.[2][3]
Magwraeth
golyguYn Ysbyty Meddwl Sunnyside, Hillside, Monadh Rois, Angus y'i ganed, yn un o'r tai ar gyfer y staff, gan fod ei thad George Cruickshank, yn ofalwr yn ysbyty yn Sunnyside. Helen oedd yr ieuengaf o dri i'w thad George (1845-1924) a'i mam Sarah Wood (1850-1940), morwyn ddomestig o Monadh Rois.[4][5][5]
Addysgwyd Helen yn ysgol bentref Hillside pan oedd yn bedair oed, cyn mynychu Academi Montrose yn ddeg oed gyda'i dau frawd hŷn.[5] Bob blwyddyn, treuliwyd gwyliau haf y teulu mewn cabanau yn Glenesk, yn Ucheldir yr Alban, lle dysgodd George ei blant am natur, datblygodd Helen yr hoffter o ddringo a cherdded, diddordeb a arhosodd gyda hi drwy gydol ei bywyd. Roedd gwyliau blynyddol teuluoedd yn rhan allweddol o fewn barddoniaeth Cruickshank, gyda chyfeiriadau aml at y tirluniau a phobl Angus.[5]
Er i Helen ennill gwobrau ym mhob pwnc yn yr ysgol, ni allai ei thad fforddio ei hanfon i'r Brifysgol er i'r Rheithor lleol ei chynghori i wneud hynny, a gadawodd Helen yr ysgol yn bymtheg oed gan sefyll arholiadau'r Gwasanaeth Sifil. Gwaith cyntaf Cruickshank oedd yn y Post Office Savings Bank yn Llundain o 1903 i 1912, ac yn ystod y cyfnod hwn cynydodd ei diddordeb mewn gwleidyddiaeth a'r ymgyrch dros hawliau merched i bleidleisio. Ymunodd Helen ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched ac ymgyrchodd dros yr achos trwy ymuno â gorymdeithiau a sialcu'r palmentydd.[1][5]
Caeredin
golyguYn 1912, cafodd Helen gynnig swydd yng Nghaeredin mewn yswiriant iechyd (rhan o Llywodraeth Lloegr) a derbyniodd y swydd. Dechreuodd gyfansoddi barddoniaeth, ac ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, dechreuodd Cruickshank gael rhywfaint o lwyddiant wrth gyhoeddi ei barddoniaeth, weithiau dan ffugenwau yn The Glasgow Herald.[5]
Bu farw tad Helen yn 1924, ac fel yr unig ferch, tybiwyd y byddai Helen yn cymryd gofal o'i mam - a oedd yn golygu y byddai'n rhaid iddi ildio ei hawydd i briodi. Ni allai menyw a weithiodd yn y gwasanaeth sifil barhau i weithio ar ôl iddynt briodi. Rhoddodd Helen orau i rentu ei fflat a phrynnodd 'Dinnieduff', tŷ-semi ar Fryn Corstorphine.
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Helen Cruickshank (1886–1975) - Edinburgh City of Literature". Edinburgh City of Literature (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-02-02. Cyrchwyd 2018-02-02.
- ↑ Dyddiad geni: "Helen Cruickshank". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "Helen Cruickshank". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ "Cruickshank, Helen Burness". Oxford Dictionary of National Biography. 23 Medi 2004. Cyrchwyd 25 April 2018.[dolen farw]
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 5.5 "Helen Cruickshank | Poetry | Scottish Poetry Library". www.scottishpoetrylibrary.org.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-02.