Helen McCrory
actores a aned yn 1968
Actores o Loegr oedd Helen Elizabeth McCrory OBE (17 Awst 1968 [1][2] – 16 Ebrill 2021)[3]
Helen McCrory | |
---|---|
Ganwyd | Helen Elizabeth McCrory 17 Awst 1968 Llundain |
Bu farw | 16 Ebrill 2021 o canser y fron Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru Yr Alban Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor llwyfan, actor ffilm |
Priod | Damian Lewis |
Plant | Manon Lewis, Gulliver Lewis |
Gwobr/au | OBE |
Roedd McCrory yn fwyaf adnabyddus am ei roliau ffilm fel Cherie Blair yn The Queen (2006) a The Special Relationship (2010), fel Narcissa Malfoy yn y tair ffilm "Harry Potter" olaf, fel Clair Dowar yn ffilm James Bond Skyfall (2012). Roedd hi'n enwog hefyd am ei rol fel Polly Grey yn y gyfres deledu BBC Peaky Blinders (2013–2019).
Cafodd McCrory ei geni yn Paddington, Llundain, yn ferch y Cymraes Ann (née Morgans), a'r diplomydd Albanaidd Iain McCrory. Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Queenswood. Priododd yr actor Damian Lewis yn 2007.[4]
Bu farw McCrory o ganser y fron, yn 52 oed.[5]
Ffilmiau
golygu- Interview with the Vampire (1994)
- Charlotte Gray (2001)
- Casanova (2005)
- Becoming Jane (2007)
- Harry Potter and the Half-Blood Prince (2009)
- Harry Potter and the Deathly Hallows – Part 1 (2010)
- Harry Potter and the Deathly Hallows – Part 2 (2011)
- Bill (2015), fel Elisabeth I, brenhines Lloegr
- Their Finest (2016)
Teledu
golygu- The Fragile Heart (1996)
- Anna Karenina (2000), fel Anna
- In a Land of Plenty (2001)
- Charles II: The Power and The Passion (2003)
- Frankenstein (2007)
- Doctor Who (2010)
- We'll Take Manhattan (2012)
- His Dark Materials (2019)
- Roadkill (2020), fel y Prif Weinidog
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Births, Marriages & Deaths Index of England & Wales, 1916–2005.; at ancestry.com
- ↑ "Mrs Damian Lewis, professionally known as Ms Helen McCrory Authorised Biography – Debrett's People of Today, Mrs Damian Lewis, professionally known as Ms Helen McCrory Profile". Debretts.com. 17 Awst 1968. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Mehefin 2012. Cyrchwyd 2 Hydref 2011.
- ↑ "'Beautiful and mighty' Harry Potter star Helen McCrory dies aged 52". Irish Times. 16 Ebrill 2021. Cyrchwyd 16 Ebrill 2021.
- ↑ "All you need to know about Damian Lewis' marriage to Helen McCrory". Hello!. 2 Hydref 2020. Cyrchwyd 16 Ebrill 2021.
- ↑ Coveney, Michael (18 Ebrill 2021). "Helen McCrory obituary". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 19 Ebrill 2021.