The Queen
Ffilm ddrama Prydeinig ydy The Queen, a ysgrifennwyd gan Peter Morgan ac a gyfarwyddwyd gan Stephen Frears. Helen Mirren sydd yn chwarae rôl y prif gymeriad sef y Frenhines Elizabeth II. Rhyddhawyd y ffilm bron i ddegawd ar ôl marwolaeth Diana, Tywysoges Cymru, ym 1997 ac mae'r ffilm yn darlunio'r cyfnod yn union wedi'r digwyddiad trychinebus. Dyma oedd y cyfnod hefyd pan oedd y Prif Weinidog Llafur y Deyrnas Unedig, Tony Blair newydd ddod i bŵer.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Stephen Frears |
Cynhyrchydd | Andy Harries Christine Langan Tracey Seaward Francois Ivernel (Uwch Gyfarwyddwr) Cameron McCracken (Uwch Gyfarwyddwr) Scott Rudin (Uwch Gyfarwyddwr) |
Ysgrifennwr | Peter Morganan Pinkava |
Serennu | Helen Mirren Michael Sheen James Cromwell Helen McCrory Alex Jennings Roger Allam Sylvia Syms |
Cerddoriaeth | Alexandre Desplat |
Sinematograffeg | Affonso Beato |
Golygydd | Lucia Zucchetti |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Pathė Pictures(Ffilm y Deyrnas Unedig) a 20th Centruy Fox(DVD y Deyrnas Unedig |
Dyddiad rhyddhau | 2 Medi, 2006 |
Amser rhedeg | 97 munud |
Iaith | Saesneg |
Gwefan swyddogol | |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Mae'r ffilm yn canolbwyntio yn bennaf ar y safbwyntiau gwahanol ynglŷn â'r ffordd orau i ymdrin â marwolaeth Diana. Gwêl y Frenhines, yn ogystal â'i gwr a'i mam, ei marwolaeth fel mater preifat ac na ddylai ei marwolaeth gael ei drin fel marwolaeth Brenhinol swyddogol. Cyferbynia hyn gyda safbwynt y Prif Weinidog newydd, Tony Blair, a chyn-wr Diana, y Tywysog Charles sydd yn awyddus i geisio adlewyrchu dyheadau'r cyhoedd gyda ffordd gyhoeddus o ddangos galar. Caiff materion eu cymhlethu ymhellach gan y cyfryngau, protocol brenhinol ynglŷn â statws swyddogol Diana a safbwyntiau ehangach am Weriniaetholdeb. Trwy gydol y ffilm, dim ond trwy gymeriadau eraill y gwelwn ac y clywn am safbwyntiau meibion Diana.