Hen Galan

13 Ionawr

Mae Hen Galan neu weithiau Calan hen yn cyfeirio at 13 Ionawr, sef diwrnod cynta'r flwyddyn cyn 1752 pan newidiwyd y dyddiad i'r un presennol (1af o Ionawr); cyn hynny diwrnod cynta'r flwyddyn oedd 13 Ionawr.[1] Golygai'r newid hwn y 'collwyd' 11 diwrnod, ac achoswyd cryn bryder gan gred llawer o bobl y byddent yn colli 11 diwrnod o'u bywydau. Ac felly mae rhai ardaloedd yn dal i ddathlu'r Hen Galan ar sail yr hen Galendr Iŵl a gafodd ei ddisodli ym 1752 gan Galendr Gregori e.e. Cwm Gwaun a Llandysul.[2]

Hen Galan
Dathliadai'r Fari Lwyd yn Aberystwyth, Hen Galan 2022
Enghraifft o'r canlynolgŵyl, traddodiad Celtaidd Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaY Fari Lwyd, calennig Edit this on Wikidata

Yn ôl Iorwerth C. Peate yn ei gyfrol Diwylliant Gwerin Cymru, 12 Ionawr oedd yr Hen Galan, nid 13 Ionawr.

Arferion yng Nghymru golygu

Roedd yr hen galan yn ddiwrnod o ŵyl ac roedd gwledda'n rhan hanfodol ohono. Hyd at 1833 arferid dathlu'r calan yn Llandysul drwy gêm gicio pêl - gyda phorth eglwys Llandysul yn un gôl a phorth eglwys Llanwenog y llall. Ar doriad y wawr - a chyn hynny'n aml - arlwywyd gwledd fawr, neu 'frecwast', ac erbyn cychwyn y gêm am naw o'r gloch y bore, roedd llawer o'r bechgyn yn chwil ulw. Roedd y gêm yn esgys da iddynt lambastio'i gilydd - gyda thorri esgyrn yn rhan o'r hwyl. Rhoddodd y Parchedig Evan James stop i'r holl giamocs yn 1833 pan fynnodd y dylai'r plwyfolion ddod i gyfarfod adrodd o'r Beibl a chanu emynau yn hytrach.[3][4] Mae'r arferiad hwn yn parhau yn Llandysul hyd y dydd hwn (2015), ar y 12fed o Ionawr ond diflannodd 'Gŵyl Cicio'r Bêl' o Landysul a phob tref arall a arferai ei chwarae.

Yng Nghwm Gwaun, mae'r gymuned yn parhau gyda nifer o'r hen draddodiadau, yn ddi-dor, gyda llawer ohonynt (yn enwedig plant) yn cerdded o amgylch ffiniau'r plwyf yn mofyn 'calennig' - fferins, losin, arian neu ffrwyth, fel arfer. Roedd hyn yn arferiad mewn sawl lle ledled Cymru, cyn ei newid i'r calan newydd. Mae taith Cwm Gwaun yn 18 milltir (29 km) o amgych y dyffryn, gan aros yma ac acw i ganu am eu calennig a chroesawu'r flwyddyn newydd.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y BBC; Dathlu'r Hen Galan er gwaetha'r tywydd; adalwyd 05/101/2013
  2. Gwefan y BBC; Dathlu'r Hen Galan o hyd ; adalwyd 05/01/2013
  3. www.genuki.org.uk; adalwyd 5 Ionawr 2015
  4. St Tysul's Church, Llandysul. A Short History and Guide by I. T. Hughes and J. R. Jenkins, t.10.
  5. Gwefan y BBC; adalwyd 5 Ionawr 2015

Gweler hefyd golygu