Y cyfnod o imperialaeth Ewropeaidd cyn 1870 oedd Hen Imperialaeth. Yn aml dywedir taw cymhellion y grymoedd Ewropeaidd oedd "aur, gogoniant ac efengyl". Aur oedd cyfoeth yr adnoddau naturiol yn y tiroedd a orchfygwyd, gogniant oedd balchder teyrnoedd Ewrop wrth ystyried eu trefedigaethau, ac efengyl oedd awydd yr Ewropeaid i droi y brodorion at Gristnogaeth. Chwaraeodd egwyddorion mercantiliaeth rôl neilltuol yn Hen Imperialaeth, gyda phob ymerodraeth yn ceisio monopoleiddio masnachau'u tiriogaethau. Yn hwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg dechreuodd Imperialaeth Newydd, gyda chyfundrefn oedd yn debygach i fasnach rydd.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.