Hen Lyfrgell Carnegie, Wrecsam
Adeilad hanesyddol rhestredig gradd II yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw hen Lyfrgell Carnegie. Tan yn ddiweddar roedd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio fel swyddfeydd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Math | llyfrgell Carnegie, llyfrgell gyhoeddus |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Wrecsam |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 84 metr |
Cyfesurynnau | 53.047014°N 2.993582°W |
Cod post | LL13 8AZ |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Manylion | |
Lleoliad
golyguMae'r hen lyfrgell yn sefyll ar ochr ogleddol Sgwâr y Frenhines, yng nghanol Wrecsam, yn gyfagos i Neuadd y Dref a'r Llwyn Isaf, ar y ffin rhwng craidd masnachol y ddinas â'r ganolfan ddinesig.
Hanes
golyguAdeiladwyd y llyfrgell yn 1906/07 diolch i grant o £4,300 o'r dyngarwr o Albanwr Andrew Carnegie. Roedd Llyfrgell Wrecsam yn un o gannoedd o lyfrgelloedd ym Mhrydain wedi'u hariannu gan Carnegie.[1] Trefnwyd cystadleuaeth i ddewis pensaer i ddarlunio'r llyfrgell. Cyflwynodd mwy na 100 pensaer cynlluniau a chafodd y gystadleuaeth ei ennill gan Vernon Hodge o Lundain.[1] Agorwyd y llyfrgell yn swyddogol ar 15 Chwefror 1907 gan Syr Foster Cunliffe o Neuadd Acton.[2] Yn 1972, symudodd Llyfrgell Wrecsam o'r adeilad ar Sgwâr y Frenhines i adeilad newydd oddi ar Ffordd Rhosddu yn y ganolfan ddinesig. [3]
Ers y saithdegau, mae'r adeilad wedi cael ei ddefnyddio fel swyddfeydd gan y Cyngor. Yn 2020, cyhoeddodd y Cyngor ei fod yn bwriadu gwerthu'r adeilad.[2]
Disgrifiad
golyguMae'r hen lyfrgell yn adeilad dau lawr, gyda llawr gwaelod o faen nadd a brics coch ar ffasâd y llawr cyntaf.[4] Codwyd yr adeilad yn enwedig o ddeunyddiau lleol – maen o chwarel Cefn Mawr a brics coch Rhiwabon.
Yr hen lyfrgell yw'r unig adeilad hanesyddol sy'n dal yn sefyll yn Sgwâr y Frenhines.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Wales – The Carnegie Legacy in England and Wales". carnegielegacyinengland.wordpress.com. 6 Ionawr 2021. Cyrchwyd 15 Rhagfyr 2022.
- ↑ 2.0 2.1 "Historic Old Library building on Queen's Square to be sold off by Wrexham Council". Wrexham.com. 3 Rhagfyr 2020. Cyrchwyd 15 Rhagfyr 2022.
- ↑ "Wrexham Carnival of Words". Facebook. 9 Rhagfyr 2022. Cyrchwyd 15 Rhagfyr 2022.
- ↑ "Old Library, Rhosddu, Wrexham". Cadw. Cyrchwyd 24 Chwefror 2023.