Sgwâr y Frenhines, Wrecsam
Sgwâr yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddywrain Cymru, yw Sgwâr y Frenhines (Saesneg: Queen's Square).
Math | sgwâr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Wrecsam |
Sir | Rhos-ddu |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.046775°N 2.993472°W |
Lleoliad
golyguMae Sgwâr y Frenhines yn sefyll yng nghanol Wrecsam, ar y gyffordd rhwng Stryt yr Arglwydd, Stryt y Syfwr, Stryt Lampint a Ffordd Rhosddu. Mae'r sgwâr yn ffurfio ffin rhwng ardaloedd masnachol a dinesig y ddinas.
Hanes
golyguDros y blynyddoedd, mae nifer o adeiladau hanesyddol a arferai sefyll ar y sgwâr wedi cael eu colli.
Rhwng 1910 a 1960 safai sinema The Glynn y drws nesaf i'r hen lyfrgell, mewn adeilad yn yr arddull neo-Duduraidd. Dywedwyd mai'r Glynn oedd y sinema gyntaf a adeiladwyd yn bwrpasol yng ngogledd Cymru.[1]
Yn 1898, sefydlwyd y farchnad lyisau mewn adeilad neo-Duduraidd ar y gyffordd rhwng Stryd y Syfwr a Stryt y Lampint. Yn 1990 dymchwelwyd yr adeilad hwn. [2]
Disgrifiad
golyguMae Sgwâr y Frenhines yn sefyll ar y ffin rhwng ardaloedd masnachol a dinesig Wrecsam. Mae strydoedd masnachol fel Stryt yr Arglwydd a Stryt yr Syfwr yn arwain at y sgwâr ac erbyn heddiw, y cyngor biau'r rhan fwyaf o'r adeiladau ar ei hochr ogleddol.
Cynhelir marchnad awyr agored bob dydd Llun yn Sgwâr y Frenhines ac felly mae'n cadw'r cysylltiad â hanes Wrecsam fel tref farchnad.[3]
Heddiw mae gan y sgwar gymeriad modern, ac eithrio'r hen lyfrgell, a adeiladwyd yn 1907 gyda chymorth ariannol gan y Carnegie Trust. Ers 1973 mae'r adeilad wedi cael ei ddefnyddio fel swyddfa gan y cyngor lleol.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Glynn Picture House, Queen's Square, Wrexham". Wrexham History. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-10-01. Cyrchwyd 13 Hydref 2022.
- ↑ "Wrexham Markets Overview". Wrexham.com. Cyrchwyd 13 Hydref 2022.
- ↑ "Marchnadoedd canol tref Wrecsam". Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 13 Hydref 2022.
- ↑ "Old Library, Rhosddu Wrexham". British Listed Buildings. Cyrchwyd 13 Hydref 2022.