Hen oleudy Ynys Wair
Saif hen oleudy Ynys Wair ar uchafpwynt Ynys Wair, 122 medr uwchben Môr Hafren. Cynlluniwyd y goleudy gan Daniel Asher Alexander, a chwblhawyd y gwaith adeiladu, yn ddefnyddio ithfaen, ym 1820 gan Joseph Nelson gyda wal geudod.[1]
Math | goleudy |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Lundy Lighthouses |
Sir | Ardal Torridge, Ynys Wair |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.1673°N 4.67319°W |
Cod OS | SS1320444290 |
Rheolir gan | Trinity House |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, heneb gofrestredig |
Cost | 36,000 punt sterling |
Manylion | |
Deunydd | carreg |
Mae’r waliau’n 3’6” o drwch ar y gwaelod, a 2’ o drwch ar ben y tŵr. Mae ceudod o 3” rhyngddynt. Uchder y tŵr yw 96 troedfedd, ac mae 147 o risiau tu mewn. Agorwyd y goleudy ar 21 Chwefror 1820, yn costio £36,000, yr un uchaf ym Mhrydain ar y pryd.[2]
Cwblhawyd y golau cylch bob 16 munud, a fflachiodd bob 2 funud, ac roedd yn weladwy 32 milltir i ffwrdd. Roedd problemau’n rheolaidd gyda niwl, oherwydd uchder y goleudy. Gosodwyd 2 gwn 18 pwys ym 1863, i danu yn ystod niwl. Disodlwyd y gynnau gan rocedi ym 1878.
Adeiladwyd trgfannau ar gyfer 2 geidwad, yn dyfnyddio ithfaen, wedi cysylltu â’r goleudy gan goridorau. Adeiladwyd Goleudy Gogledd Ynys Wair a Goleudy De Ynys Wair ym 1897; caewyd yr hen oleudy, a daeth o’n eiddo i’r Parchedig Hudson Heaven, perchennog y tir. Roedd yr adeilad ar log ar gyfer gwyliau hyd at yr Ail Ryfel Byd. Gosodwyd radio yn yr adeilad ym 1930 gan Martin Coles Harman i gysylltu â Gwylwyr y Glannau Penrhyn Hartlnand. Prynodd Harman Ynys Wair ym 1925.
Hawliwyd y goleudy gan y llynges yn ystod yr ail ryfel byd. Rhoddwyd yr hen oleudy i Gymdeithas Maes Ynys Wair ym 1947, a daeth yr adeilad eu pencadlys ac yn hostel. Addaswyd un adeilad i fod yn labordy er cof Mr Harman ar Vl iddo farw.
Mae ymddiriodolaeth Landmark wedi gwneud gwaith adfer i’r adeiladau, gan gynnwys ffenestri newydd i’r tŵr ym 1976. Trwsiwyd y lusern a llafn gwynt ym 1979. Ail-grewyd fflatiau uwch ac is ym 1982-3 efo to llechi newydd.
Erbyn hyn mae'r 2 fflat, lle oedd y geidwaid yn byw, ar gael i dwristiaid, wedi rheoli gan Ymddiriedolaeth Landmark, sy'n rheoli’r ynys i gyd ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.