Henry Rice

hanesydd (1590-1651)

Uchelwr a hynafiaethydd o Sir Gaerfyrddin oedd Henry Rice (tua 1590 - tua 1651). Roedd yn un o ddisgynyddion Syr Rhys ap Thomas (1449-1525), un o uchelwyr mwyaf grymus de Cymru yn ail hanner y 15g. Credir mai Henry Rice yw awdur bywgraffiad Syr Rhys ap Thomas. Roedd yn byw ar ystad y teulu ym mhlas Newton, Llandeilo.

Henry Rice
Ganwydc. 1590 Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1651 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethhanesydd Edit this on Wikidata
TadWalter Rice Edit this on Wikidata
MamElizabeth Mansel Edit this on Wikidata
PriodMargaret Lewis Edit this on Wikidata
PlantWalter Rice, Sir Edward Rice Edit this on Wikidata
LlinachTeulu Rice, y Drenewydd, Rhys ap Thomas Edit this on Wikidata
Arfau Syr Rhys ap Thomas a'i deulu

Bywgraffiad Syr Rhys ap Thomas golygu

Un o gymhellion Henry i ysgrifennu hanes Syr Rhys a'i deulu oedd ymdrech y teulu i adfer y tiroedd a gollwyd i Goron Lloegr ar ôl dienyddio Syr Rhys yn 1525. Yn 1625 a 1629 bu'n deisyf ar Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban. i adfer gweddill stadau ei hendaid; hawliodd fod y breninesau Mari ac Elisabeth wedi addo hynny i'w dad a'i daid.[1]

Arosodd The Life of Sir Rhys ap Thomas (teitl gwreiddiol: A short view of the long life... of Rice ap Thomas) mewn llawysgrif hyd ddiwedd y 18g pan gafodd ei gyhoeddi yn y Cambrian Register (cyfrolau i a ii, 1795 a 1796 ) dan olygyddiaeth William Owen Pughe wrth y teitl newydd The Life of Sir Rhys ap Thomas.[1] Bu'n rhaid aros tan 1993 i gael argraffiad newydd ohono, wedi ei olygu gan Ralph A. Griffiths yn ei gyfrol ar Syr Rhys ap Thomas a'i deulu.[2] Gellir ei gymharu â The History of the Gwydir Family gan Syr John Wynn o Wydir fel un o'r ychydig enghreifftiau o lyfrau hanes teuluol cynnar yng Nghymru ac mae'n ffynhonnell bwysig i haneswyr yr Oesoedd Canol Diweddar.[2]

Llyfryddiaeth golygu

Ceir testun The Life of Sir Rhys ap Thomas yn:

  • Ralph A. Griffiths, Sir Rhys ap Thomas and his Family: a study in the Wars of the Roses and Early Tudor Politics (Gwasg Prifysgol Cymru, 1993). ISBN 0-7083-1218-7

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 RICE (TEULU), Newton (Llandeilo Fawr), Y Bywgraffiadur Cymreig.
  2. 2.0 2.1 Ralph A. Griffiths, Sir Rhys ap Thomas and his Family (Gwasg Prifysgol Cymru, 1993).


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.