Henry Stanley, 3ydd Barwn Stanley o Alderley
Uchelwr a hanesydd o Loegr oedd Henry Edward John Stanley, 3ydd Barwn Stanley o Alderley ac 2il Farwn Eddisbury (11 Gorffennaf 1827 - 11 Rhagfyr 1903), a adnabyddir hefyd fel Abdul Rahman Stanley, a gyfieithodd The first voyage round the world by Magellan a gweithiau eraill o Oes y Darganfod. Wedi troi i Islam, ym 1869 daeth yr Arglwydd Stanley yn aelod Mwslemaidd cyntaf Tŷ'r Arglwyddi.[1] [2]
Henry Stanley, 3ydd Barwn Stanley o Alderley | |
---|---|
Ganwyd | 11 Gorffennaf 1827 Swydd Gaer |
Bu farw | 11 Rhagfyr 1903 Swydd Gaer |
Man preswyl | Alderley Park, Plas Bodewryd |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | hanesydd, cyfieithydd |
Swydd | Aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Tad | Edward Stanley |
Mam | Henrietta Stanley |
Priod | Fabia Roman |
Bywyd
golyguAddysgwyd Stanley yng Ngholeg Eton, ac aeth i Goleg y Drindod, Caergrawnt yn 1846.
Ymunodd â'r Gwasanaeth Diplomyddol yn 1847, a phenodwyd ef yn Attaché yn Constantinople yn 1851. Yn lonawr, 1854, trosglwyddwyd ef o Constantinople i Athen.
Yn, neu cyn, 1859, trosodd Stanley at Islam a rhoddodd y gorau i'w swydd fel diplomydd Prydeinig yn yr Ymerodraeth Otomanaidd. Efallai ei fod wedi mabwysiadu'r enw Abdul Rahman.[3][4][5] Yr Arglwydd Stanley oedd yr aelod Mwslemaidd cyntaf Tŷ'r Arglwyddi,[6][7][8] gan etifeddu ei deitlau yn 1869 ar farwolaeth ei dad. Pan oedd ymosodiad yr Iseldirwyr ar Aceh yn y newyddion ym 1873-74, roedd Stanley yn feirniad o bolisi’r Iseldiroedd a Phrydain tuag at Aceh, gan gyhuddo Prydain o fradychu Aceh, ei chynghreiriad hynafol trwy gytundebau 1601 a 1819, er iddo ymrwymo i amddiffyn ei annibyniaeth.[9]
Gan fod alcohol wedi'i wahardd yn Islam, mae'n debyg iddo orchymyn cau pob tafarn ar ei dir yn Nether Alderley.[10] Er gwaethaf ei ffydd newydd, ariannodd y gwaith o adfer nifer o eglwysi yng Ngymru gan cynnwys Eglwys y Santes Fair, Bodewryd (1867) ym Môn, Eglwys Llanbadrig (1884),[11] ac Eglwys Sant Peirio, Rhosbeirio.
Marwolaeth
golyguBu farw a chladdwyd ef ar ddau o'r dyddiadau mwyaf addawol yn y calendr Mwslemaidd, 21 a 25 Ramadan (11 a 15 Rhagfyr 1903 yn y drefn honno). Claddwyd ef yn ôl defodau Mwslemaidd mewn tir anghysegredig yng ngardd y Dower House ar ei stad ei teuluol. Y prif alarwr yn ei gladdedigaeth oedd ysgrifennydd cyntaf y Llysgenhadaeth Otomanaidd yn Llundain. Cafodd gweddïau Islamaidd eu hadrodd dros ei fedd gan imam y llysgenhadaeth.[4] Cynhaliwyd gwasanaeth Janaza er cof am yr ymadawedig ym Mosg Lerpwl, dan arweiniad Abdullah Quilliam.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gilham, Jamie (2024-05-09). "STANLEY, HENRY EDWARD JOHN 3rd Baron Stanley of Alderley and 2nd Baron Eddisbury (1827 - 1903), Diplomat, translator and writer, hereditary peer". Dictionary of Welsh Biography.
- ↑ Muriel E. Chamberlain (2004). "Stanley, Henry Edward John, third Baron Stanley of Alderley and second Baron Eddisbury (1827–1903)". Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ "An Englishman Turned Turk". The Daily Delta (quoting The Times of Ceylon) (79). New Bern, North Carolina, USA (quoting a paper from Colombo, Sri Lanka). 6 July 1859. Cyrchwyd 17 September 2020.
- ↑ 4.0 4.1 Death of Lord Stanley of Alderley
- ↑ Straits Times 2 July 1859
- ↑ "Lord Henry Stanley: A Muslim who lovingly restored a church". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 November 2007. Cyrchwyd 3 July 2007.
- ↑ Muslims of London
- ↑ "Muslim Profile of the United Kingdom". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-01-28. Cyrchwyd 2024-07-18.
- ↑ Anthony Reid & Helen Reid, ‘A Voice for Southeast Asian Muslims in the High Colonial Era: The Third Baron Stanley of Alderley, Education about Asia 11, no.3 (Winter 2006) 4-6
- ↑ Photographs of Nether Alderley
- ↑ Llanbadrig Church, Anglesey