Cemaes

pentref ar Ynys Môn

Pentref gweddol fawr yng nghymuned Llanbadrig, Ynys Môn, ydy Cemaes ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fe'i lleolir ar arfordir gogleddol yr ynys, ger Bae Cemaes lle mae Afon Wygyr yn cyrraedd y môr. Saif ger y briffordd A5025 rhwng Amlwch a Llanrhuddlad. Mae'n bosibl mai dyma bentref mwyaf gogleddol Cymru, er y gellid dadlau mai pentref Llanbadrig yw hwnnw.

Cemaes
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.411°N 4.453°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH370933 Edit this on Wikidata
Cod postLL67 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auLlinos Medi (Plaid Cymru)
Map
Gweler hefyd: Cemais (pentref ym Mhowys), Cemais (cantref ym Môn) a Cemais (cantref yn Nyfed).
Bae Cemaes, 1961

Pentref gwyliau yw Cemaes yn bennaf erbyn heddiw, er bod pysgota wedi bod yn bwysig yn y gorffennol. Ceir dau draeth, harbwr, amrywiaeth o siopau a nifer o westai. Mae'r ardal o gwmpas y pentref yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn mynd heibio'r pentref. Ychydig i'r gorllewin mae gorsaf bŵer niwcliar yr Wylfa.

Yn yr Oesoedd Canol, Cemaes oedd canolfan cantref Cemais. Adferwyd yr eglwys hynafol, sydd wedi ei chysegru i Sant Padrig, yn 1865. 'Llanbadrig' oedd yr enw arni cyn hynny.

Roedd y diwydiant pysgota yn bwysig i'r pentref yn y gorffennol.

Cloch amser a llanw

golygu

Gosodwyd Cloch Amser a Llanw, dyfeisiwyd gan Marcus Vergette ar y traeth ym mis Ebrill 2014.[1]

 
Cloch amser a llanw, Bae Cemaes

Pobl o Gemaes

golygu

Chwaraeon

golygu

Bu clwb pêl-droed y pentref, C.P.D. Bae Cemaes yn llwyddiannus iawn yn yr 1990au hwyr gan chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru. Maent bellach wedi disgyn sawl adran ac yn chwarae yng Nghynghrair Ynys Môn.[2]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu