Henry de Montherlant
Roedd Henry de Montherlant (20 Ebrill 1895 – 21 Medi 1972) neu Montherlant, yn awdur nofelau, traethodau a dramâu. Ymysg ei lyfrau enwocaf mae'r nofelau Les Jeunes Filles (1936-1939) a'i ddramâu La Reine morte (1942), Le Maître de Santiago (1947) a La Ville dont le prince est un enfant (1951). Fe'i benodwyd yn aelod o'r Académie française ym 1960.
Henry de Montherlant | |
---|---|
Ffugenw | François Lazergue |
Ganwyd | Henry Marie Joseph Frédéric Expédite Millon de Montherlant 20 Ebrill 1895 7fed arrondissement Paris |
Bu farw | 21 Medi 1972 o gwenwyno gan syanid 7fed arrondissement Paris |
Man preswyl | rue Lauriston |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, dramodydd, bardd |
Gwobr/au | Officier de la Légion d'honneur |
llofnod | |
Agweddau dadleuol ar ei waith
golyguMae atgasedd at fenywod yn thema trwy llawer o'i waith. Yn ei llyfr le Deuxième Sexe, mae Simone de Beauvoir yn dadansoddi gwaith Montherlant yn fanwl. Yn les Jeunes Filles mae'n disgrifio menwyod fel « bêtes féminines » (anifeiliaid benywaidd), « malades, malsaines, jamais tout à fait nettes » (sâl, afiach, heb fyth fod yn gwbl lân). Mae gan yr arwr gwrywaidd berthynas anghyfartal gyda menywod : « Prendre sans être pris, seule formule acceptable entre l'homme supérieur et la femme. » (Cymryd heb gael eich cymryd, yr unig drefniant derbyniol rhwng dyn uwchraddol a dynes).