Hentai

math o gomics neu animediiadau pornograffig sy'n dod o Japan fel arfer

Gair Japaneg ydy Hentai (変態 or へんたい) (Ynghylch y sain ymaclywed yr ynganiad ) sy'n disgrifio math o gomics neu animediiadau pornograffig (neu sy'n cynnwys lluniau o ryw eithafol) sy'n dod o Japan fel arfer. Gellwch ddweud fod anime, manga ac eroge yn fathau o hentai. Mae Bible Black yn esiampl o hentai.

Darlun eroge math Hentai

Mae'r gair yn un cyfansawdd: mae 変 (hen; "newid", "od", neu "estron") yn cyfuno efo 態 (tai; "ymddygiad" neu "edrychiad"). Mae'n derm sydd wedi'i fyrhau o'r dywediad 変態性欲 (hentai seiyoku) sy'n golygu "sexual perversion".[1] Mewn slang Japanaeg, mae "hentai"'n cael ei ddefnyddio fel gair i ddilorni rhywun ac mae'n golygu yn y cyd-destun yma "dyn bydr" neu "weirdo".

Mae'r defnydd o'r gair yn y Saesneg ychydig yn wahanol, ac yn debycach i ddefnydd slang y Japani o'r gair エッチ (H neu ecchi), sy'n golygu unrhyw gynnwys sy'n ymwneud efo rhyw. Anaml iawn mae pobl o Japan yn defnyddio "hentai" i olygu pornograffi neu anime. Maen nhw'n defnyddio dau derm arall:

  • 18禁 / 18-kin: sy'n golygu "wedi ei wahardd i bobl dan ddeunaw oed"
  • 成人漫画 / seijin manga neu "gor-fanga".[1]

Yn answyddogol hefyd mae pobl Japan yn defnyddio termau fel anime ero (エロアニメ), manga ero (エロ漫画), a'r acronym Seisnig AV (am "adult video" neu fideo i oedolion).

Hanes golygu

Y ffilm animeiddieig cyntaf, mae'n debyg, oedd One Thousand and One Nights ac roedd yn para 130 munud. Yna cyhoeddwyd cyfres o'r enw Lolita Anime, sef yr animeiddiad hentai cyntaf yn 1984 gan gwmni Wonder Kids. Roedd y ffilm hon yn cynnwys bondais, rhaib a rhyw dan oed. Daeth Cream Lemon ar ei ôl gan gwmni Fairy Dust, ffilm sy'n cynnwys llawer o'r themau sy'n dal i'w gweld mewn hentai cyfoes.[2] Cyfres o dair ffilm oedd The Brothers Grime wedi'i gynhyrchu gan Excalibur Films yn 1986, 1987, and 1988 a dyma anime mwyaf poblogaidd Japan nes cyhoeddiwyd Urotsukidoji.[3]

Mathau golygu

Mae yna lawer o ffetish gwahanol mewn hentai e.e.

  • Bakunyū, merched efo bronnau mawr
  • Futanari, hermaphrodites
  • Llosgach, cyfathrach rhywiol rhwng aeldau o'r un un teulu
  • Lolicon, mae hwn yn ymneu efo merched ifanc cyn-glasoed
  • Omorashi (オモラシ / おもらし / お漏らし?), mae hyn yn ymneud efo pobl gyda llond pledran cyn gwlychu eu hunain.
  • Shotacon, bechgyn ifanc
  • Erotica Tentacles, sy'n math o anghenfilod sy'n camdrin merched ac weithiau dynion.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "A Short History of 'Hentai'", gan Mark McLelland, Intersections: Gender, History and Culture in the Asian Context, Rhif 12, Ionawr 2006. Fersiwn HTM.
  2. "Ask John: How Much Cream Lemon is There?". animenation.net. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-12. Cyrchwyd 2012-11-27.
  3. "The Anime "Porn" Market". awn.com.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.