Term Siapaneg yw Shunga (春画; ynganer fel 'shwn-ga') am ddarluniau erotig. Mae'r rhan fwyaf o luniau shunga yn perthyn i ukiyo-e, ac ar gael fel arfer fel printiadau bloc pren. Ond mae gwreiddiau shunga yn hen a cheir sgroliau erotig o'r Oesoedd Canol hefyd, ymhell cyn cyfnod ukiyo-e. Ystyr lythrennol y gair Japaneg "shunga" yw 'darlun (o'r) gwanwyn'; mae "gwanwyn" yn air llednais (euphemism) traddodiadol am ryw yn niwylliant Siapan.

Darlun shunga o'r cyfnod Meiji

Hanes golygu

 
Hokusai: "Y Planhigyn Adonis"

Yn hanesyddol, mae agwedd y Japaneaid tuag at ryw yn llawer mwy agored nac yn y rhan fwyaf o ddiwylliannau Gorllewinol. Ceir nifer o ddisgrifiadau erotig yn llenyddiaeth Japan o'r cyfnod Heian ymlaen; mae 44 allan o 54 pennod y nofel enwog Genji monogatari (tua 1100), gan yr Arglwyddes Murasaki Shikibu, yn disgrifio'n fanwl anturiaethau carwrol y tywysog ifanc Genji, er enghraifft. O'r un cyfnod ceir sgroliau hir - makemono - ac mae'r rhain yn cynnwys enghreifftiau o ddarluniau erotig. Roedd digon o lawlyfrau rhyw ar gael hefyd, yn aml gyda lluniau i'w esbonio.

Ond rhan o ddiwylliant soffistigedig y llys yw'r gwaith erotig cynnar sydd wedi goroesi. Roedd shunga ei hun yn waith celf ar lefel mwy poblogaidd, a hybwyd yn enfawr gan ddatblygiadau mewn technoleg printio a gallu'r dosbarth cynyddol bwysig o farsiandiwyr a phobl dosbarth canol i brynu llyfrau a gwaith celf.

Ystyrir mai Hishikawa Moronobu (1618-1694) yw'r artist mawr cyntaf yn y mudiad shunga. Darluniau ar gyfer llyfrau yw trwch ei waith, sy'n cynnwys cynran sylweddol o luniau shunga. Dilynwyd ef yn y 18g a'r 19g gan rhai o feistri mawr ukiyo-e, a gynrycholir yn bennaf gan Hokusai, yr enwocaf a mwyaf dylanwadol o artistiaid Siapaneaidd yn y Gorllewin. Mae gwaith Hokusai yn cynnwys darluniau a phaentiadau ar nifer o bynciau, o flodau a merched i dirluniau, ond llai adnabyddus yw'r pum llyfr a dwy albwm o luniau shunga a gynhyrchodd ac a ystyrir yn glasuron yn y maes. Fel yn achos sawl cyfres arall o luniau shunga gan artistiaid llai adnabyddus, mae'r lluniau hyn yn storïol ac yn cynnwys testun Siapaneg. Yr enwocaf o luniau shunga Hokusai yw Breuddwyd Gwraig y Pysgotwr.

Cafodd arddull darluniau shunga ddylanwad mawr ar rai artistiaid yn Ewrop yn ail hanner y 19g, yn enwedig Manet ac eraill yn Ffrainc, ac felly bu'n un o'r dylanwadau a arweiniodd at y mudiad Argraffiadaeth (Impressionism) a'r mudiadau newydd eraill a'i ddilynodd.

Yn niwylliant Siapan heddiw, gweler dylanwad shunga yn eglur ar y llyfrau manga poblogaidd.

Rhai artistiaid shunga golygu

 
Miyagawa Isshō: "Dyfyrion gwanwynol"

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato