Brenin mytholegol yr Helfa Wyllt yw Herla. Yn ôl y chwedl, aeth Herla i wledd briodas corrach oedd yn byw mewn mynydd. Rhoddwyd ceffylau, helgwn, ac offer hela yn anrhegion gan y corrach i Herla. Gosododd y corrach waetgi ar fwa cyfrwy'r brenin, a dywedodd nid oedd y cwmni hela i ddisgyn oddi ar gefnau eu ceffylau nes bod y gwaetgi yn llamu o'r cyfrwy. Ar ôl un noson, dychwelodd y Brenin Herla i'w balas, a dysgodd fod 200 mlynedd wedi mynd heibio. Neidiodd rhai o'r osgordd oddi ar eu ceffylau a throdd yn llwch. Mae Herla a gweddill ei griw yn parhau i farchogaeth nes bydd y gwaetgi yn neidio o'r cyfrwy ar y Dydd Olaf.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Wild Huntsman Legends. Adalwyd ar 22 Medi 2014.
  Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato