Mae corrach yn greadur sy'n deillio o fytholeg, Germanaidd a Llychlynaidd yn bennaf, a straeon Tylwyth Teg, ac sydd wedi datblygu yn ffigwr mewn ffuglen ffantasi a gemau chwarae rôl (lle cyfeirir at wrach yn aml fel dorf "do-r-f"). Mae gan gorachod allu hudol fel rheol, yn aml yn ymwneud â meteleg. Y creaduriaid tebycaf i'r corachod Sgandinafaidd yn llên gwerin Cymru yw'r coblynnod a'r Coraniaid : cyfeirir at yr olaf yn Chwedl Lludd a Llefelys. Ceir creaduriaid bychain arallfydol mewn sawl mytholeg arall hefyd, ond mae'r erthygl hon yn ymwneud yn bennaf â'r corachod Germanaidd neu Sgandinafaidd (dwarf).

Mae'n anodd cadarnhau tarddiad gwreiddiol corachod, mae'r ffynonellau sydd agosaf i'r fytholeg Germanaidd wreiddiol yn dod o fytholeg Llychlyn, ond mae'r rhain yn brin ac yn amrywiol. Yn raddol, mae corachod wedi ennill rôl mwy digri ac ofergoelus.[1] Roedd corachod yn sicr yn ddynol, ond mae'r ffynonellau'n amrywio yn eu taldra, eu ffordd o fyw, a'u tebygrwydd at ellyllon. Gan gysidro'r ffynonellau gwreiddiol a'u natur, mae'n debygol y bu'r corachod gwreiddiol o daldra dynol llawn. Roedd ganddynt gysylltiadau cryf â marwolaeth[2][3]: croen gwelw; gwallt tywyll; cysylltiadau gyda'r ddaear; au rôl ym mytholeg. Dilynont draddodiadau animistaidd, gan ddangos tebygrwydd i addoliad hynafiaid a'r meirw. Roeddent yn debyg i eraill o deulu'r Vættir, megis yr ellyllon.[2]

Fel y datblygodd eu mytholeg, maent wedi troi'n nodweddiadol yn fwy digri a dirgel. Maent wedi mabwysiadu delwedd cyfoes o fod yn fyr ac yn hyll. Mae eu cysylltiadau gyda'r elfennau tanddaearol wedi dod yn amlycach. Mae corachod yn fodau hudol gyda chryn dawn am feteleg, gan ddod yn enwog am greu eitemau chwedlonol. Roedd y cysyniad Nordig diweddar o gorachod yn gryn wahanol i'r gwreiddiol. Daethant yn fodau hudol anweledig fel y Tylwyth Teg, yn defnyddio swynion, melltithion, a thwyll.

Corachod mewn ffantasi cyfoes

golygu

Llyfrau

golygu

Gêmau fideo a chwarae rôl

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 'Zwerge' yn Lexikon der germanischen Mythologie, Rudolf Simek, (Stuttgart, 1984)
  2. 2.0 2.1 Mythology: A Guide to the Gods, Heroes, Rituals, and Beliefs, p.100
  3. Poetic Edda: Essays on Old Norse Mythology, t. 213

Gweler hefyd

golygu