Hermann von Helmholtz

Gwyddonydd ac athronydd Almaenig oedd Hermann Ludwig Ferdinand von Helmholtz (31 Awst 18218 Medi 1894).[1] Arbenigodd ym meysydd ffiseg a ffisioleg, ond cyfranodd hefyd at ddatblygiadau yn acwsteg, opteg, mathemateg, meteoroleg, ac athroniaeth.

Hermann von Helmholtz
Portread o Hermann von Helmholtz gan Ludwig Knaus (1881).
GanwydHermann Ludwig Ferdinand Helmholtz Edit this on Wikidata
31 Awst 1821 Edit this on Wikidata
Potsdam Edit this on Wikidata
Bu farw8 Medi 1894 Edit this on Wikidata
Charlottenburg, Berlin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prwsia, Ymerodraeth yr Almaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Hermann-von-Helmholtz-Gymnasium
  • Prifysgol Frederick William
  • Pépinière Edit this on Wikidata
ymgynghorydd y doethor
  • Johannes Peter Müller Edit this on Wikidata
Galwedigaethffisegydd, ophthalmolegydd, cerddolegydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, academydd, seicolegydd, ffisiolegydd, bioffisegwr, athronydd, anatomydd, naturiaethydd, meddyg yn y fyddin, patholegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amcadwraeth egni Edit this on Wikidata
PriodAnna von Helmholtz, Olga von Helmholtz Edit this on Wikidata
PlantRichard von Helmholtz, Robert von Helmholtz, Ellen von Siemens-Helmholtz, Friedrich Julius von Helmholtz Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Copley, Gwobr Darlithyddiaeth Faraday, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Urdd Maximilian Bafaria am Wyddoniaeth a Chelf, Medal Matteucci, Medal Albert, Croonian Medal and Lecture, Aelod Tramor o'r Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata

Fel anatomegydd, astudiodd ffisioleg y nerfau a llwyddodd i fesur buanedd ysgogiad nerfol gan ddefnyddio galfanomedr. Ar sail ei arbrofion ar fetabolaeth y cyhyrau, darganfyddodd egwyddor cadwraeth egni a'i gosod yn ddeddf fathemategol ym 1847. Arloesoedd gysyniad egni rhydd, a chyfranodd at ddatblygiadau yn thermodynameg ac electrodynameg. Astudiodd hefyd mudiant fortecs mewn hylifau. Ymhelaethodd ar ddamcaniaeth Thomas Young ar olwg a lliw, eglurodd mecanwaith ymgymhwysiad y lens, ym 1851 dyfeisiodd yr offthalmosgop, a chyhoeddodd draethawd estynedig ar opteg ffisiolegol ym 1867. Roedd hefyd yn arbenigwr ar acwsteg, yn enwedig ansawdd tôn.

Addysgodd ffiseg ym Mhrifysgol Berlin, a gweithiodd yn swydd cyfarwyddwr yr Athrofa Ffisegol-Dechnegol yn Charlottenburg.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Hermann von Helmholtz. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 31 Hydref 2023.