Charlottenburg
Ardal o Ferlin, prifddinas yr Almaen, yw Charlottenburg a saif ar Afon Spree. Ers 2001, mae'n ffurfio rhan o fwrdeistref Charlottenburg-Wilmersdorf. Mae ardal hanesyddol Charlottenburg ychydig yn fwy na'r dosbarth dinesig cyfoes sy'n dwyn yr enw.
Math | locality of Berlin |
---|---|
Enwyd ar ôl | Sophie Charlotte o Hannover |
Poblogaeth | 124,555 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Charlottenburg-Wilmersdorf |
Gwlad | Yr Almaen |
Arwynebedd | 10.6 km² |
Uwch y môr | 46 metr |
Yn ffinio gyda | Charlottenburg-Nord, Tiergarten, Moabit, Berlin-Wilmersdorf, Schöneberg, Halensee, Westend, Hansa quarter |
Cyfesurynnau | 52.5167°N 13.3°E |
Cod post | 10585, 10587, 10589, 10623, 10625, 10627, 10629, 14052, 14055, 14057, 14059 |
Casgliad o ffermydd, ac yna pentref, o'r enw Lietzow neu Lietzenburg ydoedd yn wreiddiol. Wedi marwolaeth Sophie Charlotte von Hannover, gwraig Ffredrig I, brenin Prwsia, ym 1705 fe'i hailenwyd yn Charlottenburg ar ei hôl, a derbyniodd siarter drefol. Wrth i Ferlin dyfu a llyncu'r trefi a phentrefi cyfagos, cafodd Charlottenburg ei hymgorffori'n rhan o'r ddinas ym 1920.
Mae adeiladau ac atyniadau'r ardal yn cynnwys yr Olympiastadion, a gynhaliodd Gemau Olympaidd yr Haf 1936, a Phalas Charlottenburg, a godwyd ym 1695–99 ar gyfer Sophie Charlotte, sy'n gartref i gasgliadau o hen bethau, paentiadau, ac offerynnau cerdd. Ym mharc y palas lleolir beddrod Ffredrig Wiliam III a'i wraig Luise von Mecklenburg-Strelitz. Yn y palas hefyd mae capel yn y dull Baróc, a adferwyd wedi iddo gael ei ddinistrio yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ailagorwyd yr hen goleg technegol yn Charlottenburg ym 1946 ar ffurf Prifysgol Dechnegol Berlin. Lleolir sawl amgueddfa, colegau celf a cherdd, a thŷ opera'r Deutsche Oper Berlin yn Charlottenburg.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Charlottenburg. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 31 Hydref 2023.