Teitl Sbaenaidd hanesyddol yw hidalgo (ffurf luosog: hidalgos)[1] a gyfeiriodd yn yr Uchel Oesoedd Canol at bendefig etifeddol, ac yn yr Oesoedd Canol Diweddar a'r cyfnod modern cynnar at farchog neu un o'r bonedd.

Hidalgo
Enghraifft o'r canlynolteitl bonheddig, swydd Edit this on Wikidata
Mathmarchog Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ymddangosodd yr enw Hen Sbaeneg fidalgus, neu hidalgo yn Gastileg, yn gyntaf yn y 12g, a dywed taw cywasgair ydyw o hijo de algo ("mab rhywbeth"). Geirdarddiad posib arall yw'r Lladin filius (mab) a legis (cyfraith). Fe'i defnyddiwyd i ddisgrifio'r holl uchelwyr, ond yn enwedig y mân-bendefigion, i wahaniaethu rhwng y rheiny, y meistri cyfoethog (ricos hombres), a'r marchogion gwrêng (caballeros villanos). Fel arfer, uchelwyr etifeddol o rengoedd is y bendefigaeth oedd yr hidalgos, yn berchen ar rywfaint o dir ac yn gwasanaethu yn y fyddin. Er iddynt etifeddu eu teitlau, nid oedd eu heiddo a'u cyfoeth teuluol cymaint â'r dugiaid, ardalyddion, ac ieirll ac roedd eu safle ariannol felly yn llai sicr. Buont yn ddibynnol ar renti o'u hystadau, a swyddi milwrol a llywodraethol, ond derbyniasant hefyd ragorfreintiau.[2]

Erbyn y 15g, mae'n debyg cyfyngwyd yr enw i gynnwys mân-uchelwyr o dras Gristnogol yn unig, ac nid cyn-Fwslimiaid na chyn-Iddewon yn Sbaen.[2] Fodd bynnag, dirywiodd sefyllfa ariannol nifer o'r hidalgos, a chymerai'r enw ystyr lacach, i ddisgrifio marchogion a gwŷr bonheddig yn gyffredin. Erbyn y 18g, nid oedd unrhyw freintiau yn gysylltiedig â'r hidalgos. Mae'r hidalgo tlawd neu ddieiddo yn gymeriad mewn sawl gwaith yn llenyddiaeth Sbaeneg, gan gynnwys y nofelau picarésg Lazarillo de Tormes a Don Quixote.

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, "hidalgo".
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) hidalgo. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Medi 2023.