Ardalydd
Uchelwr a'i safle rhwng dug ac iarll yw ardalydd[1] neu weithiau marcwis (Saesneg: Marquess). Gelwir ei wraig yn ardalyddes.
Enghraifft o'r canlynol | teitl bonheddig, courtesy title, gwobr |
---|---|
Math | seigneur |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ystyr
golyguYstyr y teitl yn y Gymraeg yw swyddog neu uchelwr sydd a'r cyfrifoldeb i amddiffyn ardal arbennig. Mae'r teitl i'w cael ym Mrut y Tywysogion [1][2]. Mae'r teitl yn Saesneg yn tarddu o'r un gwreiddyn a'r term mers (ffin / march yn Saesneg). Y gwahaniaeth tybiedig yn y bendefigaeth Ewropeaidd yw bod Cownt (teitl sydd ddim ar gael ym mhendefigaeth Lloegr) yn gyfrifol am weinyddu comte (ardal gweinyddol) a bod Marcwis yn gyfrifol am amddiffyn ei ffiniau. Er hynny nid oedd Arglwyddi'r Mers yn defnyddio'r teitl Ardalydd.
William Salesbury yn ei eiriadur A Dictionary in Englyshe and Welshe (1547) oedd y cyntaf i ddefnyddio'r hen deitl Cymraeg Ardalydd fel cyfieithiad o'r teitl Saesneg Marquess.[1]
Ardalyddion Cymru
golyguTri ardalydd sydd a'u teitlau yn deillio o Gymru:
- Ardalydd Môn, teitl a roddwyd gyntaf i Henry William Paget ym 1815 [3]
- Ardalydd y Fenni, teitl a roddwyd gyntaf i William Nevill ym 1886 [4]
- Ardalydd Aberdaugleddau, teitl a roddwyd gyntaf i'r tywysog Louis o Battenberg (Mountbatton) ym 1917[5]
Cyfarchiad
golyguYn ôl arfer parch pendefig dylid cyfeirio at Ardalydd fel Y Mwyaf Anrhydeddus a'i chyfarch fel Eich Anrhydedd Fwyaf [6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 ardalydd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 23 Mehefin 2017.
- ↑ Thomas Jones, gol. Brut y Tywysogion: Peniarth MS. 20 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1952)
- ↑ . Dictionary of National Biography. Llundain: Smith, Elder & Co. 1885–1900.
- ↑ Cokayne, George E. (1910). Gibbs, Vicary, ed. The complete peerage of England, Scotland, Ireland, Great Britain and the United Kingdom, extant, extinct, or dormant. I, Ab-Adam to Basing. London: St. Catherine Press.
- ↑ Cokayne, G.E. (1940), The Complete Peerage, revised, enlarged and edited by Doubleday, H.A. and Howard de Walden, Lord, London: St Catherine Press, vol. XIII tud. 260
- ↑ "Marquess and Marchioness". Debrett's. n.d. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Tachwedd 2014. Cyrchwyd 22 Medi 2014. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)