Don Quixote yw'r enw arferol ar nofel Miguel de Cervantes sydd a'r teitl llawn El ingenioso hidalgo don Quixote de la Mancha, neu yn orgraff Sbaeneg modern, Don Quijote. Y nofel yma, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1605, yw nofel enwocaf Sbaen; mae hefyd yn un o nofelau enwocaf y byd. Cyhoeddwyd yr ail gyfrol ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Mae'n nofel ddoniol ym yr arddull bicaresg, ond mae neges fwy difrifol iddi hefyd.

Don Quixote (1605), y dudalen deitl wreiddiol.

Prif amcan Cervantes wrth ysgrifennu Don Quixote oedd dinistrio'r llyfrau marchogwriaeth a rhamant a oedd mor boblogaidd yn Sbaen. Oherwydd y brwydro yn erbyn y Mwriaid bu'r llyfrau rhamant oroesi yn hwy nac unrhyw fan arall. Nid ef oedd yr unig un. Yn 1533 pasiodd Siarl V ddeddf yn gwahardd dwyn Rhamantau Marchogwriaeth i mewn i India'r Gorllewin. yn 1555 ceisiwyd deddfu yn ei herbyn a'u llosgi, ond heb lwyddo.[1]

Mae'r arwr, Alonso Quixano, yn foneddwr gwledig sy'n byw yn La Mancha. Trwy ddarllen gormod o lyfrau ar sifalri, mae'n dod i gredu ei fod yn byw mewn byd o farchogion crwydr o'r cyfnod yma, ac mae'n cychwyn allan gyda'i ysgweier Sancho Panza, yn marchogaeth ar ei hen geffyl "Rocinante". Mae'n rhaid i farchog gael cariad, a dewis Don Quixote yw Dulcinea del Toboso, mewn gwirionedd Aldonza Lorenzo, merch fferm gyfagos, sy'n gwybod dim am hyn.

Dilynir Don Quixote trwy gyfres o anturiaethau; un o'r enwocaf yw ei ymosodiad ar felinau gwynt gan dybio mai cewri ydynt. Ar ddiwedd y nofel, mae'n sylweddoli ei fod wedi bod yn ei dwyllo ei hun, ac yn marw.

Don Quixote, Rocinante a Sancho Panza wedi ymosodiad aflwyddiannus ar felin wynt. Llun gan Gustave Doré.

Yn 2005, dathlwyd pedwar can mlwyddiant y llyfr mewn nifer o ffyrdd; er enghraifft yn Feneswela, rhannodd yr arlywydd Hugo Chávez filiwn o gopiai am ddim fel rhan o ymgyrch yn erbyn anllythrenedd.

FfynonellauGolygu

  1. Anturiaethau Don Cwicsot J.T.Jones Llyfrau'r Dryw.