Archifydd Seisnig oedd Syr Charles Hilary Jenkinson (1 Tachwedd 18825 Mawrth 1961). Fe'i ganwyd yn Streatham, Llundain. Fe'i addysgwyd yng Ngholeg Dulwich ac wedyn, Coleg Penfro, Caergrawnt. Ymunodd â staff yr Archifdy Gwladol ym 1906, ac ar wahân i wasanaeth milwrol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a chyfnod byr yn Swyddfa Ryfel y Llywodraeth Brydeinig, yno y bu hyd ei ymddeoliad ym 1954. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n ymgynghorydd Swyddfa'r Rhyfel ar faterion archifol, yn cynghori ar dynged archifau y daethpwyd o hyd iddynt wrth i'r fyddin Brydeinig oresgyn tiroedd eu gelynion.

Hilary Jenkinson
Ganwyd1 Tachwedd 1882 Edit this on Wikidata
Streatham Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mawrth 1961 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaetharchifydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, Cymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol, Marchog Faglor, Cymrawd Gymdeithas yr Hynafiaethwyr Edit this on Wikidata

Prif gyfraniad Jenkinson oedd i waith ymarferol ac athronyddol i ddatblygu ymarfer a theori archifol, ac fe'i ystyrir yn dad y proffesiwn o archifydd ym Mhrydain a gwledydd Y Gymanwlad. Fe osodwyd yr egwyddorion archifol hyn yn ei lyfr A Manual of Archive Administration, a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym 1922, gyda mân adolygiadau ym 1937. Hwn oedd y testun safonol a ddefnyddid i roi seiliau i hyfforddiant archifyddion hyd yn gymharol ddiweddar.[1]

Prif bwyntiau ei weledigaeth parthed natur archifau a'r gorchwyl o'u gwarchod oedd:

  • Na all archifau, fel cofnod mud o ddigwyddiadau, ddweud celwydd.
  • Bod egwyddor tarddiad (sef provenance) yn hollbwysig. Rhaid medru olrain cadwraeth/ceidwaid dogfen yn ôl yn ddi-fwlch at ei chreawdwr er mwyn iddi gadw ei dibynadwyedd fel tystiolaeth ddiduedd.
  • Rhaid parchu perthnasedd a pherthynas rhwng un ddogfen a'r lleill a grëwyd neu a gadwyd gyda hi. Daw'r cysyniad hwn o arfer archifdai yn Ffrainc (lle roedd y proffesiwn wedi ei ddiffinio gan yr Ecóle des Chartes, ac fe'i elwir yn le respect pour les fonds. Fonds yw'r enw yn Ffrangeg na ellir ei gyfieithu'n iawn am grwp o ddogfennau gyda pherthnasedd organig o ran eu creu neu eu cadw.
  • Rhaid i archifydd fod yn amhleidiol, gan dderbyn pa archifau bynnag y rhoddir iddo eu cadw, a heb ddewis a dethol ymysg y deunydd, na rhoi ffafriaeth i unrhyw farn neu agwedd wrth eu cadw a'u rhestru. Yn ei eiriau ef, "nid hanesydd mo'r archifydd".[2]

Erbyn hyn mae theori archifol ym Mhrydain wedi datblygu dan ddylanwad archifyddion damcaniaethol mewn gwledydd eraill megis yr Unol Daleithiau, Canada ac, yn arbennig efallai, Awstralia. Mae ei egwyddorion yn rhai absoliwt, ac maent yn fwy addas ar gyfer archifdy gwladol neu lywodraethol, neu archifau busnes fawr. Gyda thwf archifdai lleol, mae anghenion pragmataidd a'r galw am ddefnyddio archifau, ynghyd â'r pwysau am werth am arian, diffyg lle a gofynion strategol arianwyr sefydliadau archifol o gyrff fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru hyd at archifdai sirol bach, wedi arwain at rai arferion mwy ymarferol er y telir sylw o hyd at egwyddorion sylfaenol Jenkinson. I ddisgrifio agweddau athronyddol neu ymarferol sy'n seiliedig ar waith Jenkinson, defnyddir yr ansoddair "Jenkinsonaidd".

Cyfeiriadau golygu

  1. Wikipedia, erthygl ar Jenkinson. [1], cyrchwyd 8.10.2018
  2. Gwybodaeth bersonol; Hilary Jenkinson, A Manual of Archive Administration, (Lund Humphries, 1937),passim.