Hiri Motu
Mae Hiri Motu, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Motu Heddlu, Pisin Motu, neu Hiri, yn un o ieithoedd swyddogol Papua Gini Newydd.[2]
Enghraifft o'r canlynol | iaith, lingua franca, iaith fyw |
---|---|
Math | Motu |
Rhagflaenydd | Papuan Pidgin English |
Enw brodorol | Hiri Motu |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | ho |
cod ISO 639-2 | hmo |
cod ISO 639-3 | hmo |
Gwladwriaeth | Papua Gini Newydd |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'n ffurf o'r iaith Motu, o deulu ieithoedd Austronesaidd. Er nad yw'n fratiaith na chreol, mae'n meddu rhai o nodweddion y ddau fath o iaith. Mae gwahaniaethau ffonolegol a gramadegol yn golygu nad yw defnyddwyr Hiri Motu a Motu yn deall ei gilydd ar sail eu gallu i siarad y naill neu'r llall. Mae'r ieithoedd yn debyg iawn i'w gilydd yn eirfaol, ac mae ganddynt sylfaen gystrawenol Austronesaidd gyffredin, er ei bod wedi'i symleiddio. Hyd yn oed yn yr ardaloedd ble roedd yr iaith wedi'i sefydlu yn dda fel lingua franca, mae Hiri Motu wedi bod yn colli tir i Tok Pisin a Saesneg ers blynyddoedd lawer.
Mae gan yr iaith hanes sy'n mynd yn ôl ymhellach o lawer na'r cysylltiad Ewropeaidd; datblygodd ymhlith aelodau'r cylch masnach Hiri rhwng pobl y Motu a'u cymdogion ar hyd arfordir de-ddwyrain ynys Gini Newydd.[3] Yn nyddiau cynnar y trefedigaethu Ewropeaidd, ymledodd y defnydd o Hiri Motu a chafodd ei fabwysiadu gan Heddlu Brenhinol Papua (sy'n esbonio'r enw "Motu Heddlu"). Erbyn dechrau'r 1960au, mae'n siwr bod Hiri Motu wedi cyrraedd ei uchafbwynt o ran ymlediadː honno oedd y ingua franca i ran fawr o'r wlad. Honno oedd y iaith gyntaf i lawer o bobl oedd a rhieni yn perthyn i wahanol grwpiau ieithyddol (fel arfer plant i heddlu a gweision sifyl. from different language groups (typically the children of policemen and other public servants).
Ers y 1970au cynnar, os nad ynghynt, mae'r defnydd o Hiri Motu fel lingua franca o ddydd i ddydd yn ei hen "ystod" ac wedi bod yn colli tir i'r Saesneg a Tok Pisin. Henoed yw ei siaradwyr heddiw gan fwyaf, gyda'r chyfran fwyaf ohonynt yn ardaloedd y Canolbarth a'r Gwlff. Mae siaradwyr ifanc y "fam iaith" (Motu go iawn) yn tueddu i fod yn anghyfarwydd a Hiri Motu, ac ychydig ohonynt sy'n medru ei deall a'i siarad yn dda, yn groes i'r hyn oedd y sefyllfa genhedlaeth neu ddwy yn ol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas: SIL International, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/
- ↑ Specific legislation proclaiming official languages in Papua New Guinea seems not to exist – but see Constitution of Papua New Guinea: Preamble – Section 2/11 (literacy) – where Hiri Motu is mentioned (with Tok Pisin and English) as languages in which universal literacy is sought – and also section 67 2(c) (and 68 2(h), where conversational ability in Hiri Motu is mentioned (with Tok Pisin or “a vernacular of the country”) as a requirement for citizenship by nationalisation (one of these languages required)
- ↑ This is disputed by Dutton.