Pisin
iaith
Iaith gyfrwng (lingua franca) ydy Toc Pisineg (Tok Pisin / Pidgin), sy'n cael ei siarad yn Papua Gini Newydd a yn ynysoedd y Cefnfor Tawel. Tafodiaith o Saesneg ydy hi. Tok Pisin yw "talk pidgin" yn Toc Pisineg; hynny yw, "siarad pidgin". Fodd bynnag, daw'r gair pidgin o gamynganiad Tsieineaidd o "business"; hynny yw "busnes".
Argraffiad Pisin Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
O Pisin ddaeth yr ymadroddion Saesneg "Long time no see!" (Sut mae ers tro byd?), "No can do!" (Fe allai ddim gwneud hynny!), "No go." (Dim mynediad.) a "piccaninny" (plentyn cynfrodol).
Ymadroddion Cyffredin.
- Tok Pisin : Pisin
- Wels : Cymraeg
- Inglis : Saesneg
- Gude! / Yu stap! : Helo!
- Orait? : Sut mae?
- Nambawan! : Da iawn!
- nogut : drwg / gwael / dim gwerth
- Moning! : Bore da!
- Apinun! : P'nawn da!
- Gut nait! : Nos da!
- Plis! : Os gwelwch chi'n dda!
- Tenkyu! : Diolch!
- No tenkyu! : Dim diolch!
- Sori! : Mae'n flin gen i!
- ya / yes : ïe / do / oes, etc.
- no / nogat : nage / naddo / nag oes etc.
- Mi no save. (SA-fe) : Wn i ddim.
- Gut bai! : Da boch chi!
- Lukim yu! : Hwyl fawr!
Geiriau Diddorol.
- bilong longwe ples : estron
- gumi bilong kok : condom
- i no dia : rhad
- katim gras bilong het : torri gwallt
- Misis kwin : Y Frenhines
- pikinini : plentyn (Sbaeneg pequeño = bach)
- tok ples : (tafod)iaith lleol (hynny yw - nid Tok Pisin)
- waia i lus : gwallgo
- wilwil : beic
- wokabaut : gwyliau (Saesneg Awstralia walkabout = gwyliau)
- magani : walabi
- bikpela magani : cangarŵ
- kaikai : bwyd
- solwara : môr (Saesneg saltwater = dwr halen)
- lotu : crefydd (Ffijïeg lotu = crefydd)
- haus lotu : eglwys (Saesneg house neu Almaeneg haus = tŷ + Ffijïeg lotu = crefydd)