Hogia'r Bonc
Grŵp o ardal Bethesda yw Hogia'r Bonc sydd yn mynd o gwmpas tafarndai, clybiau a neuaddau yn canu caneuon gwerin a phoblogaidd Cymraeg.
Maent wedi recordio dwy CD ar label Sain; Y Rheol Bump oedd y cyntaf ac Un Cam yn Nes yw'r ail. Mae Un Cam yn Nes yn cynnwys caneuon gan Meic Stevens, Dafydd Iwan, Mim Twm Llai, yn ogystal â chaneuon gwreiddiol gan aelodau'r grŵp.
Mae 11 aelod yn y grŵp, gydag 10 ohonynt yn aelodau hefyd o Gôr Meibion y Penrhyn, ac eleni (2018) maent yn. dathlu eu penblwydd yn 20 oed.
Maent yn canu i gyfeiliant gitar Acwstig a gitar fas. Gellir eu clywed yn canu caneuon gwerin a chaneuon poblogaidd o'r 70au - 90au, yn ogystal â chaneuon poblogaidd cyfoes a chaneuon gwreiddiol.
Mae'r hogia wedi rhyddhau 3 CD: Y Rheol Bump, UnCam yn Nes, Pesda Bach Ni (2018).
Aelodau
golygu- Alun Davies (gitâr acwstig a llais)
- Alwyn Jones (gitâr fas)
- Bryn Evans
- Ieuan Hughes
- Brynmor Jones
- Gwyn Burgess
- Tom Williams
- Gareth Hughes
- Brian Pritchard
- Maldwyn Pritchard
- Walter Williams
Mae'n draddodiad i'r grŵp deithio i'r Iwerddon yn flynyddol. Maent eisoes wedi bod yn Galway, Rosslare, Mulingar, Maynooth, yn ogystal a chanu mewn cyngherddau yn yr Unol Daleithiau.
Dolenni allanol
golygu- Safle'r grŵp Archifwyd 2007-03-10 yn y Peiriant Wayback
- Safle Côr Meibion y Penrhyn Archifwyd 2011-10-13 yn y Peiriant Wayback