Gaillimh

dinas yn Iwerddon
(Ailgyfeiriad o Galway)

Prif ddinas Swydd Gaillimh, gorllewin Iwerddon, yw Gaillimh (Saesneg: Galway),[1] sy'n yr unig ddinas yn nhalaith Connachta. Saif ar lan Bae Gaillimh lle rhed Afon Coirib i'r môr ar ddiwedd ei thaith fer o Loch Coirib, i'r gogledd. Dros y bae i'r gorllewin ceir Oileáin Árann a gysylltir â'r ddinas gan wasanaeth fferi rheolaidd.

Gaillimh
Mathdinas, dinas weinyddol yng Ngweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Poblogaeth83,456 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1124 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Bradford, Amasya, Seattle, Chicago, St. Louis, An Oriant, Aalborg, Milwaukee, Waitakere City, Moncton, Brockton, Auckland, Bwrdeistref Aalborg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirContae na Gaillimhe Edit this on Wikidata
GwladBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Arwynebedd53.43 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr25 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2729°N 9.0418°W Edit this on Wikidata
Cod postH91 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredoloffice of the Mayor of Galway Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaethollegislative body of Galway City Council Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Galway Edit this on Wikidata
Map

Mae'r iaith Wyddeleg yn gymharol gryf yma, o'i chymharu â rhannau eraill o'r wlad. Mae rhannau o'r ddinas yn rhan o Gaeltacht Swydd Gaillimh ac mae'r ddinas ei hun â statws 'Tref Wasanaethu'r Gaeltacht' ac felly, yn rhoi cefnogaeth arbennig ar gyfer darpariaeth yn yr iaith i'w thrigolion a thrigolion y Gaeltacht gyfagos.

Ar y cei yn harbwr Galway

Adeiladau a chofadeiladau

golygu
  • Amgueddfa'r Ddinas Gaillimh
  • Eglwys gadeiriol
  • Eglwys Sant Niclas
  • Prifddinas Genedlaethol Iwerddon, Gaillimh
  • Sgwar Eyre
  • Taibhdhearc na Gaillimhe (theatr iaith Wyddeleg genedlaethol Iwerddon)

Enwogion

golygu

Chwaraeon

golygu

Mae'r ddinas yn gartref i dîm rygbi Connacht sy'n chwarae yn y Pro14.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022
  Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.