Homo erectus georgicus

is-rywogaeth o Homo erectus a ystyriwyd ar un cyfnod yn rhywogaeth lawn
(Ailgyfeiriad o Homo georgicus)

Mae Homo erectus georgicus yn is-rywogaeth o Homo erectus a ystyriwyd ar un cyfnod yn rhywogaeth lawn.[1] Fe'i darganuwyd yn Dmanisi, Georgia yn 1991 gan David Lordkipanidze pan gloddiwyd i'r wyneb bum penglog. Daeth nifer o ffosiliau eraill i'r fei, gan gynnwys penglog cyfan yn 2005 a 73 o offer-llaw i dorri a naddu a 34 aswrn amryw o anifeiliaid. Fe'i dyddiwyd i 1.8 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP).

Homo erectus georgicus
Penglog Dmanisi 3, penglog D2700 a gên D2735, a ganfuwyd yn Dmanisi, gwlad Georgia.
Enghraifft o'r canlynolffosil (tacson) Edit this on Wikidata
Safle tacsonrhywogaeth Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonHomo Edit this on Wikidata
DechreuwydMileniwm 1850. CC Edit this on Wikidata
Daeth i benMileniwm 1750. CC Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Lleoliad Dmanisi.

Ar y cychwyn credwyd fod y ffosiliau o rywogaeth newydd, a alwyd yn Homo georgicus, ar ôl y wlad lle'u darganfuwyd, a'i fod yn esblygiad uniongyrchol o'r Homo habilis Affricanaidd, ac yn un o hynafiaid Homo erectus. Ni chafwyd cefnogaeth i hyn, a dynodwyd y darganfyddiad fel isrywogaeth o Homo erectus.[2]

Yr hyn sy'n nodedig am y sgerbydau hyn yw fod eu hasgwrn cefn, y clun a'r coesau'n gymharol 'fodern', er bod rhannau eraill, fel y benglog, yn hynafol; credir ei fod yn llawer cyflymach ac ystwythach ar ei draed na dengys morffoleg ei ragflaenwyr.[3]

Credir, bellach ei fod wedi esblygu wedi i H. habilis esblygu'n H. erectus tua 1.8 CP.[4][5]

Mae gan benglog D2700 gyfaint o 600 cubic centimetre (37 cu in), a phenglog D4500 (Penglog Dmanisi 5, gyfaint o tua 546 cubic centimetre (33.3 cu in) - sy'n eu gwneud y penglogau lleiaf yn y cyfnod Pleistosen.[6][7]

Cyfeiriadau golygu

  1. Vekua A, Lordkipanidze D, Rightmire GP, Agusti J, Ferring R, Maisuradze G, Mouskhelishvili A, Nioradze M, De Leon MP, Tappen M, Tvalchrelidze M, Zollikofer C (2002). "A new skull of early Homo from Dmanisi, Georgia". Science 297 (5578): 85–9. doi:10.1126/science.1072953. PMID 12098694.
  2. Gabunia, L.; Vekua, A.; Lordkipanidze, D.; Swisher Cc, 3.; Ferring, R.; Justus, A.; Nioradze, M.; Tvalchrelidze, M. et al. (2000). "Earliest Pleistocene hominid cranial remains from Dmanisi, Republic of Georgia: Taxonomy, geological setting, and age". Science 288 (5468): 1019–1025. doi:10.1126/science.288.5468.1019. PMID 10807567.
  3. Bower, Bruce (3 Mai 2006). "Evolutionary back story: Thoroughly modern spine supported human ancestor". Science News 169 (18): 275–276. doi:10.2307/4019325.
  4. Lordkipanidze D, Jashashvili T, Vekua A, Ponce de León MS, Zollikofer CP, Rightmire GP, Pontzer H, Ferring R, Oms O, Tappen M, Bukhsianidze M, Agusti J, Kahlke R, Kiladze G, Martinez-Navarro B, Mouskhelishvili A, Nioradze M, Rook L (2007). "Postcranial evidence from early Homo from Dmanisi, Georgia". Nature 449 (7160): 305–310. doi:10.1038/nature06134. PMID 17882214. http://www.mediadesk.uzh.ch/assets/downloads/Dmanisi_press_release.pdf.
  5. Wilford, John Noble (19 September 2007). "New Fossils Offer Glimpse of Human Ancestors". The New York Times. Cyrchwyd 9 Medi 2009.
  6. David Lordkipanidze, Marcia S. Ponce de Leòn, Ann Margvelashvili, Yoel Rak, G. Philip Rightmire, Abesalom Vekua, Christoph P. E. Zollikofer (18 Hydref 2013). "A Complete Skull from Dmanisi, Georgia, and the Evolutionary Biology of Early Homo". Science 342 (6156): 326–331. doi:10.1126/science.1238484. https://archive.org/details/sim_science_2013-10-18_342_6156/page/326.
  7. Switek, Brian (17 Hydref 2013). "Beautiful Skull Spurs Debate on Human History". National Geographic. Cyrchwyd 22 Medi 2014.