Cysylltwaith o esgyrn y tu mewn i'r corff yw'r sgerbwd, a adnabyddir hefyd fel y system ysgerbydol. Mae ganddo dair swyddogaeth: yn gyntaf, mae'n gallu amddiffyn y corff: mae'r penglog, er enghraifft, yn amddiffyn yr ymennydd. Mae hefyd yn cynnal y corff: dyna sut yr ydym yn gallu sefyll i fyny yn syth, er enghraifft. Yn drydydd, ceir cyhyrau yn sownd wrth yr esgyrn a cheir cymalau yn ein hesgyrn sy'n golygu y gall y corff symud.

Sgerbwd
Enghraifft o'r canlynolstrwythur anatomegol, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathsystem o organnau, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Rhan oanifail Edit this on Wikidata
Yn cynnwysasgwrn Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'n gweithio ar y cyd gyda'r cyhyrau, er mwyn symud corff bod dynol neu anifail; mae'r system yn cynnwys yr esgyrn a'r sgerbwd, (sy'n cynnal ffram y corff), y cartilag a'r y gewynnau. Mae'r corff dynol yn cynnwys 206 asgwrn sy'n fframwaith gadarn i ddal gweddill yr organau. Er mwyn symud y sgerbwd mae'n rhaid cael cyhyrau, pâr ohonynt i weithio ar y cyd. Mae gan y sgerwd gartilag er mwyn ystwythder. Stribedi cryf o feinwe ydy'r ligament, sy'n dal yr esgyrn at ei gilydd a gewynnau'n dal y cyhyr yn sownd i'r asgwrn.

Mae fertebratau yn anifeiliaid a sgerbwd mewnol wedi'i ganoli o amgylch asgwrn cefn echelinol, ac mae eu sgerbydau fel arfer yn cynnwys esgyrn a chartilagau. Mae sgerbydau infertebratau (anifeiliaid di-asgwrn-cefn) yn amrywio: gan gynnwys sgerbwd cregyn caled (yr arthropodau a’r rhan fwyaf o folysgiaid), cregyn mewnol platiog (e.e. esgyrn ystifflogod (cuttlefish) mewn rhai seffalopodau) neu wiail (e.e. osiclau mewn echinodermau), ceudodau corff a gynhelir gan hydrostatig (y rhan fwyaf), a sbigylau (sbyngau). Mae cartilag yn feinwe gyswllt anhyblyg a geir yn systemau ysgerbydol fertebratau ac infertebratau.

Oriel golygu

Dosbarthiad golygu

Gellir diffinio sgerbydau gan sawl nodwedd. Mae sgerbydau solet yn cynnwys sylweddau caled, fel asgwrn, cartilag, neu gwtigl. Gellir rhannu'r rhain ymhellach yn ôl lleoliad; mae sgerbydau mewnol yn endosgerbydau, ac mae sgerbydau allanol yn allsgerbydau. Gellir diffinio sgerbydau hefyd gan anhyblygedd, lle mae sgerbydau hyblygt yn fwy elastig na sgerbydau anhyblyg.[2] Nid oes gan sgerbydau hydrostatig strwythurau caled fel sgerbydau solet, yn hytrach mae nhw'n gweithredu trwy hylifau dan bwysau. Mae sgerbydau hydrostatig bob amser yn fewnol.[3]

Sgerbydau allanol (allsgerbydau) golygu

 
Sgerbwd allanol morgrugyn

Sgerbwd allanol sy'n gorchuddio corff anifail yw allsgerbydau, sy'n gwarchod yr organau byw fel arfwisg gan amddiffyn yr anifail rhag ysglyfaethwyr. Mae gan arthropodau all-sgerbydau sy'n amgáu eu cyrff ac mae'n rhaid iddynt gael eu bwrw o bryd i'w gilydd wrth i'r anifeiliaid dyfu, ddim yn anhebyg i sut mae neidr yn bwrw ei chroen. Mae cregyn molysgiaid yn ffurf arall ar allsgerbwd.[3]"Why animals developed four types of skeletons". National Geographic (yn Saesneg). 2021-10-19. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 October 2021. Cyrchwyd 2022-07-31."Why animals developed four types of skeletons". National Geographic. 19 October 2021. Archived from the original on 19 October 2021. Retrieved 31 July 2022.</ref> Mae allsgerbydau yn darparu arwynebau ar gyfer atodi cyhyrau, a gall atodiadau arbenigol i'r allsgerbwd gynorthwyo gyda symud ac amddiffyn. Mewn arthropodau, mae'r allsgerbwd hefyd yn cynorthwyo gyda chanfyddiad synhwyraidd.[4]

Gall sgerbwd allanol fod yn eithaf trwm mewn perthynas â màs cyffredinol yr anifail, felly ar dir, mae organebau sydd ag allsgerbwd yn gymharol fach ar y cyfan. Gall anifeiliaid dyfrol fod dipyn yn fwy gan bod pwysau'r allsgerbwd yn cael ei gynnal gan y dŵr. Mae gan y gragen fylchog (y Tridacna derasa) sy'n rhywogaeth o gregyn bylchog mawr iawn yn y Cefnfor Tawel, gragen sy'n enfawr o ran maint a phwysau. Rhywogaeth o falwen y môr yw'r Syrinx aruanus, ac mae ganddi hithau hefyd gragen enfawr.

Sgerbwd mewnol (endosgerbydau) golygu

 
Mewnsgerbwd ystlum

Adeiledd cynnal mewnol anifail yw'r endosgerbydau (y sgerbwd mewnol), sy'n cynnwys meinweoedd mwynol, fel yr esgyrn a geir yn y rhan fwyaf o fertebratau.[5] Mae endosgerbydau'n hynod o arbenigol ac yn amrywio'n sylweddol o anifail i anifail.[3] Maent yn amrywio o ran cymhlethdod. Mae gwir endosgerbwd yn deillio o feinwe mesodermaidd ac mae endossgerbydau yn digwydd mewn cordogau, echinodermau a'r sbyngau.

Caledwch (anhyblygrwydd) golygu

Mae sgerbydau ystwyth yn gallu symud; felly, pan roddir straen ar y strwythur ysgerbydol, mae'n dadffurfio ac yna'n adennill ei siâp gwreiddiol. Defnyddir yr adeiledd ysgerbydol hwn mewn rhai infertebratau, er enghraifft yng ngholfach y cragen ddeuglawr neu ym mesoglea cnidariadau fel slefrod môr. Mae sgerbydau ystwyth yn fuddiol oherwydd dim ond cyfangiadau cyhyrau sydd eu hangen i blygu'r sgerbwd. Gall sgerbwd ystwyth fod yn ddim ond cartilag, ond mae'r rhan fwyaf o sgerbydau ystwyth yn cael eu ffurfio o gymysgedd o broteinau, polysacaridau a dŵr.[2] Ar gyfer strwythur neu amddiffyniad ychwanegol, gall sgerbydau ystwyth gael eu cynnal gan sgerbydau caled. Fel nodwyd, mae organebau sydd â sgerbydau ystwyth fel arfer yn byw mewn dŵr, sy'n cynnal strwythur y corff.

Sgerbydau hydrostatig golygu

Mae sgerbydau hydrostatig yn geudodau hyblyg o fewn anifail sy'n darparu strwythur trwy bwysau hylif, sy'n digwydd mewn rhai mathau o organebau corff meddal, gan gynnwys slefrod môr, llyngyr lledog, nematodau, a mwydod. Cyhyr a meinwe gyswllt yw gwneuthuriad waliau'r ceudodau hyn.[3] Yn ogystal â darparu strwythur ar gyfer corff anifail, mae sgerbydau hydrostatig yn trosglwyddo grymoedd cyfangiad y cyhyrau, gan ganiatáu i anifail symud trwy gyfangiadau am yn ail ac ehangu cyhyrau ar hyd corff yr anifail.[6]

Cytosgerbwd golygu

Defnyddir y cytosgerbwd (cyto- yw 'cell' [7]) i sefydlogi a chadw ffurf y celloedd. Mae'n strwythur deinamig sy'n cynnal siâp cell, yn amddiffyn y gell, yn galluogi mudiant cellog gan ddefnyddio strwythurau fel chwip (flagella), cilia a lamellipodia, a chludiant o fewn celloedd fel symudiad fesiglau ac organynnau, ac yn chwarae rhan mewn rhaniad y celloedd. Mae'r cytosgerbwd yn gwasanaethu swyddogaeth debyg i'r sgerbwd ar y lefel cellog.[8]

Sgerbydau asgwrn cefn golygu

 
Pithecometra: Evidence as to Man's Place in Nature gan Thomas Huxley (1863), sef sgerbydau epaod yn esblygu'n fodau dynol.

Yn y rhan fwyaf o fertebratau, asgwrn yw'r brif elfen ysgerbydol.[5] Elfen bwysig arall yw'r cartilag sydd i'w gael yn bennaf o fewn cymalau mamaliaid. Mewn anifeiliaid eraill, megis y pysgod cartilagaidd, sy'n cynnwys morgwn, dim ond cartilag sydd. Mae patrwm segmentol y sgerbwd yn bresennol ym mhob fertebrat, gydag unedau sylfaenol yn cael eu hailadrodd, megis yn y asgwrn cefn a'r asennau.[9][10]

Mae esgyrn yn organau anhyblyg sy'n ffurfio rhan o endosgerbydau fertebratau. Maent yn darparu cefnogaeth strwythurol i'r corff, yn cynorthwyo symudiad trwy gyfangu cyhyrol, ac yn creu wal amddiffynnol o amgylch organau mewnol. Gwneir esgyrn yn bennaf o fwynau anorganig, fel hydrocsiapatite, tra bod y gweddill wedi'i wneud o fatrics organig a dŵr. Mae strwythur tiwbaidd gwag yr esgyrn yn darparu ymwrthedd sylweddol yn erbyn cywasgiad, ac yn ysgafn. Mae'r rhan fwyaf o gelloedd mewn esgyrn naill ai'n osteoblastau, yn osteoclastau, neu'n osteocytau.[11]

Math o feinwe gyswllt drwchus yw meinwe'r asgwrn. Un math o feinwe sy'n ffurfio meinwe asgwrn yw meinwe mwyneiddiol ac mae hyn yn rhoi anhyblygedd iddo a strwythur mewnol tri dimensiwn tebyg i diliau mêl. Yr esgyrn hefyd sy'n cynhyrchu celloedd gwaed coch a gwyn ac sy'n gwasanaethu fel storfa calsiwm a ffosffad ar y lefel gellog. Mae mathau eraill o feinwe a geir mewn esgyrn yn cynnwys mêr, endostewm a periostewm, nerfau, pibellau gwaed a chartilag .

Amffibiaid ac ymlusgiaid golygu

Mae sgerbydau crwbanod wedi esblygu i ddatblygu cragen o'r asennau, gan ffurfio allsgerbwd.[12] Mae gan sgerbydau nadroedd a chaeciliaid lawer mwy o fertebra nag anifeiliaid eraill. Yn aml mae gan nadroedd dros 300, o gymharu â'r 65 sy'n nodweddiadol mewn madfallod.[13]

Adar golygu

Addaswyd sgerbydau adar ar gyfer hedfan. Mae'r esgyrn mewn sgerbydau adar yn gymharol wag ac yn ysgafn. Mae nifer o nodweddion siâp a strwythur yr esgyrn wedi'u hoptimeiddio i ddioddef y straen corfforol sy'n gysylltiedig â hedfan, gan gynnwys siafft humeral crwn a thenau ac asio elfennau ysgerbydol.[14] Oherwydd hyn, mae gan adar fel arfer nifer llai o esgyrn na fertebratau daearol eraill. Mae gan adar hefyd ddiffyg dannedd neu hyd yn oed ên go iawn, yn hytrach maent wedi datblygu pigau, sy'n llawer ysgafnach. Mae gan bigau llawer o fabanod adar ddarn o'r enw dant wy, sy'n hwyluso eu hymadawiad o'r wy amniotig.

Pysgod golygu

Mae'r sgerbwd, sy'n ffurfio'r strwythur cynnal y tu mewn i'r pysgodyn naill ai wedi'i wneud o gartilag fel yn y Chondrichthyes, neu esgyrn fel yn yr Osteichthyes. Y brif elfen ysgerbydol yw'r asgwrn cefn, sy'n cynnwys fertebrau cymalog sy'n ysgafn ond eto'n gryf. Mae'r asennau'n glynu wrth yr asgwrn cefn ac nid oes unrhyw goesa. Dim ond y cyhyrau sy'n eu cefnogi. Mae prif nodweddion allanol y pysgodyn, yr esgyll, yn cynnwys pigau esgyrnog neu feddal heb unrhyw gysylltiad uniongyrchol â'r asgwrn cefn. Cynhelir y rhain gan y cyhyrau.

Mae gan bysgod cartilaginous, fel morgwn, morgathod, a chimeras, sgerbydau wedi'u gwneud yn gyfan gwbl o gartilag. Credir fod pwysau ysgafnach y cartilag yn caniatáu i'r pysgod hyn wario llai o egni wrth nofio.[3]

Mamaliaid golygu

Mamaliaid morol golygu

 
Morlo Califfornia

Er mwyn hwyluso symudiad mamaliaid morol mewn dŵr, collwyd y coesau ôl yn gyfan gwbl, fel yn y morfil a'r morfuwch, neu fe'u hunwyd mewn asgell gynffon sengl fel yn y morloi. Yn y morfil, mae'r fertebra ceg y groth yn nodweddiadol wedi'u hasio, sy'n rhoi sefydlogrwydd yn ystod nofio.[15]

Bodau dynol golygu

 
Astudiaeth o Sgerbydau, c. 1510, gan Leonardo da Vinci

Mae'r sgerbwd yn cynnwys esgyrn ymdoddedig ac unigol wedi'u cynnal a'u hategu gan ewynnau, tendonau, cyhyrau a chartilag. Gellir ei gymharu â sgaffald yr adeiladwr, sy'n cynnal yr organau, yn angori'r cyhyrau, ac yn amddiffyn yr organau fel yr ymennydd, yr ysgyfaint, y galon a llinyn yr asgwrn cefn.[16] Yr asgwrn mwyaf yn y corff yw'r ffemwr yn rhan uchaf y goes, a'r lleiaf yw asgwrn gwarthol y glust yn y glust ganol. Mewn oedolyn, mae'r sgerbwd yn cynnwys tua 13.1% o gyfanswm pwysau'r corff,[17] ac mae hanner y pwysau hwn yn ddŵr.

Mae'r sgerbwd dynol yn cymryd 20 mlynedd cyn iddo gael ei ddatblygu'n llawn, ac mae'r esgyrn yn cynnwys mêr, sy'n cynhyrchu celloedd gwaed.

Sgerbydau di-asgwrn-cefn golygu

Diffinnir infertebratau gan ddiffyg asgwrn cefn, ac nid oes ganddynt sgerbydau o esgyrn. Mae gan arthropodau allsgerbydau ac mae gan echinodermau endosgerbydau. Mae gan rai organebau corff meddal, fel slefrod môr a mwydod, sgerbydau hydrostatig.[18]

Arthropodau golygu

Mae sgerbydau arthropodau, gan gynnwys pryfed, cramenogion, ac arachnidau, yn allsgerbydau cwtigl. Maent yn cynnwys citin sy'n cael ei secretu gan yr epidermis.[19] Mae'r cwtigl yn gorchuddio corff yr anifail ac yn leinio nifer o organau mewnol, gan gynnwys rhannau o'r system dreulio. Wrth iddynt dyfu mae arthropodau yn bwrw eu hesgyrn trwy broses a elwir yn ecdysis, gan ddatblygu allsgerbwd newydd sbon, mae nhw'n treulio rhan o'r hen sgerbwd, ac yn gadael y gweddill ar ôl. Ceir sawl swyddogaeth i sgerbwd yr arthropod gan gynnwys gweithio fel pilyn i ddarparu rhwystr a chynnal y corff, gan ddarparu atodiadau ar gyfer symud ac amddiffyn, a chynorthwyo mewn canfyddiadau synhwyraidd. Mae rhai arthropodau, fel cramenogion, yn amsugno biofwynau fel calsiwm carbonad o'r amgylchedd i gryfhau'r cwtigl.[4]

Echinodermau golygu

Mae sgerbydau echinodermau, fel sêr môr a draenogod môr, yn endosgerbydau sy'n cynnwys platiau mawr o sclerit, wedi eu datblygu ac sy'n ffinio neu'n gorgyffwrdd i orchuddio corff yr anifail. Mae sgerbydau ciwcymbrau môr (y dosbarth Holothuroidea) yn eithriad, gyda maint llai i gynorthwyo gyda bwydo a symud. Mae sgerbydau'r echinoderm yn cynnwys stereom, sy'n cynnwys calsit gyda strwythur monorisialog. Gallant gynnwys swm sylweddol o magnesiwm, gan ffurfio hyd at 15% o gyfansoddiad y sgerbwd. Mae'r strwythur stereom yn fandyllog, ac mae'r mandyllau'n llenwi â meinwe stromal cysylltiol wrth i'r anifail heneiddio. Ymhlith anifeiliaid sy'n bodoli, mae sgerbydau o'r fath yn unigryw i echinodermau, er bod rhai anifeiliaid Paleosöig yn defnyddio sgerbydau tebyg.[20] Mesodermaidd yw sgerbydau echinodermau, gan eu bod wedi'u gorchuddio'n bennaf gan feinwe meddal. Gall platiau'r sgerbwd gael eu cyd-gloi neu eu cysylltu trwy gyhyrau a gewynnau. Mae elfennau ysgerbydol mewn echinodermau yn hynod arbenigol ac yn cymryd sawl ffurf, er eu bod fel arfer yn cadw rhyw fath o gymesuredd.[21]

Molysgiaid golygu

Mae gan rai molysgiaid, fel cregyn bylchog a malwod, gregyn sy'n gwasanaethu fel allsgerbydau. Cânt eu cynhyrchu gan broteinau a mwynau sy'n cael eu secretu o fantell yr anifail.[3]

Sbyngau golygu

O fewn sgerbwd y sbwng ceir sbicwlau calchaidd neu silicaidd microsgopig. Mae'r demosbwngau yn cynnwys 90% o'r holl rywogaethau o sbyngau. Crewyd eu "sgerbydau" o sbigylau sy'n cynnwys ffibrau o'r protein spongin, y mwynau silica, neu'r ddau. Lle mae sbigylau o silica'n bresennol, mae ganddynt siâp gwahanol i'r rhai yn y sbyngau gwydr (yr Hecsactinellid) sydd fel arall yn debyg.[22]

Llyfryddiaeth golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. [https://coflein.gov.uk/en/site/93771?term=Llangar Coflein; adalwyd 3 Mawrth 2024
  2. 2.0 2.1 Ruppert, Fox & Barnes 2003.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 "Why animals developed four types of skeletons". National Geographic (yn Saesneg). 2021-10-19. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 October 2021. Cyrchwyd 2022-07-31.
  4. 4.0 4.1 Politi, Yael; Bar-On, Benny; Fabritius, Helge-Otto (2019), Estrin, Yuri; Bréchet, Yves; Dunlop, John et al., eds., "Mechanics of Arthropod Cuticle-Versatility by Structural and Compositional Variation" (yn en), Architectured Materials in Nature and Engineering: Archimats, Springer Series in Materials Science (Cham: Springer International Publishing) 282: 287–327, doi:10.1007/978-3-030-11942-3_10, ISBN 978-3-030-11942-3, https://doi.org/10.1007/978-3-030-11942-3_10
  5. 5.0 5.1 de Buffrénil, Vivian; de Ricqlès, Armand J; Zylberberg, Louise; Padian, Kevin; Laurin, Michel; Quilhac, Alexandra (2021). Vertebrate skeletal histology and paleohistology. Boca Raton, FL: CRC Press. tt. xii + 825. ISBN 978-1351189576.
  6. Kier, William M. (2012-04-15). "The diversity of hydrostatic skeletons". Journal of Experimental Biology 215 (8): 1247–1257. doi:10.1242/jeb.056549. ISSN 0022-0949. PMID 22442361.
  7. "cyt- or cyto-". Mish 2014.
  8. Fletcher, Daniel A.; Mullins, R. Dyche (2010). "Cell mechanics and the cytoskeleton" (yn en). Nature 463 (7280): 485–492. Bibcode 2010Natur.463..485F. doi:10.1038/nature08908. ISSN 1476-4687. PMC 2851742. PMID 20110992. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2851742.
  9. Billet, Guillaume; Bardin, Jérémie (13 October 2021). "Segmental Series and Size: Clade-Wide Investigation of Molar Proportions Reveals a Major Evolutionary Allometry in the Dentition of Placental Mammals". Systematic Biology 70 (6): 1101–1109. doi:10.1093/sysbio/syab007. PMID 33560370. https://doi.org/10.1093/sysbio/syab007.
  10. Buffrénil, Vivian de; Quilhac, Alexandra (2021). "An Overview of the Embryonic Development of the Bony Skeleton". Vertebrate Skeletal Histology and Paleohistology (CRC Press): 29–38. doi:10.1201/9781351189590-2. ISBN 978-1351189590. https://www.taylorfrancis.com/chapters/edit/10.1201/9781351189590-2/overview-embryonic-development-bony-skeleton-vivian-de-buffr%C3%A9nil-alexandra-quilhac.
  11. Sommerfeldt, D.; Rubin, C. (2001-10-01). "Biology of bone and how it orchestrates the form and function of the skeleton" (yn en). European Spine Journal 10 (2): S86–S95. doi:10.1007/s005860100283. ISSN 1432-0932. PMC 3611544. PMID 11716022. https://doi.org/10.1007/s005860100283.
  12. Nagashima, Hiroshi; Kuraku, Shigehiro; Uchida, Katsuhisa; Kawashima-Ohya, Yoshie; Narita, Yuichi; Kuratani, Shigeru (2012-03-01). "Body plan of turtles: an anatomical, developmental and evolutionary perspective" (yn en). Anatomical Science International 87 (1): 1–13. doi:10.1007/s12565-011-0121-y. ISSN 1447-073X. PMID 22131042. https://doi.org/10.1007/s12565-011-0121-y.
  13. M. Woltering, Joost (2012-06-01). "From Lizard to Snake; Behind the Evolution of an Extreme Body Plan". Current Genomics 13 (4): 289–299. doi:10.2174/138920212800793302. PMC 3394116. PMID 23204918. https://www.ingentaconnect.com/content/ben/cg/2012/00000013/00000004/art00004.
  14. Dumont, Elizabeth R. (2010-07-22). "Bone density and the lightweight skeletons of birds". Proceedings of the Royal Society B: Biological Sciences 277 (1691): 2193–2198. doi:10.1098/rspb.2010.0117. PMC 2880151. PMID 20236981. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2880151.
  15. Bebej, Ryan M; Smith, Kathlyn M (17 March 2018). "Lumbar mobility in archaeocetes (Mammalia: Cetacea) and the evolution of aquatic locomotion in the earliest whales". Zoological Journal of the Linnean Society 182 (3): 695–721. doi:10.1093/zoolinnean/zlx058. ISSN 0024-4082. https://academic.oup.com/zoolinnean/article/182/3/695/4554339?login=true. Adalwyd 7 March 2022.
  16. "Skeletal System: Facts, Function & Diseases". Live Science. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 March 2017. Cyrchwyd 7 March 2017.
  17. Reynolds & Karlotski 1977
  18. Langley, Liz (October 19, 2021). "Why animals developed four types of skeletons". National Geographic. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 October 2021. Cyrchwyd November 1, 2022.
  19. Vincent, Julian F. V. (2002-10-01). "Arthropod cuticle: a natural composite shell system" (yn en). Composites Part A: Applied Science and Manufacturing 33 (10): 1311–1315. doi:10.1016/S1359-835X(02)00167-7. ISSN 1359-835X. https://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S1359835X02001677.
  20. Kokorin, A. I.; Mirantsev, G. V.; Rozhnov, S. V. (2014-12-01). "General features of echinoderm skeleton formation" (yn en). Paleontological Journal 48 (14): 1532–1539. doi:10.1134/S0031030114140056. ISSN 1555-6174. https://doi.org/10.1134/S0031030114140056.
  21. Nebelsick, James H.; Dynowski, Janina F.; Grossmann, Jan Nils; Tötzke, Christian (2015), Hamm, Christian, ed., "Echinoderms: Hierarchically Organized Light Weight Skeletons" (yn en), Evolution of Lightweight Structures: Analyses and Technical Applications, Biologically-Inspired Systems (Dordrecht: Springer Netherlands) 6: 141–155, doi:10.1007/978-94-017-9398-8_8, ISBN 978-94-017-9398-8, https://doi.org/10.1007/978-94-017-9398-8_8, adalwyd 2022-07-31
  22. Barnes & Fox Barnes, tt. 105–106.

Dolenni allanol golygu

  Cyfryngau perthnasol Sgerbydau ar Gomin Wicimedia