Hon
Cerdd Gymraeg gan T. H. Parry-Williams (1887–1975) yw "Hon"[1] sy'n ymwneud ag hunaniaeth Gymreig a pherthynas y Cymro â'i wlad.
Cynnwys
golyguEgyr y gerdd gyda chwestiwn rhethregol, cwestiwn nad oes disgwyl ateb iddo ond â'r bardd ymlaen i'w drafod a'i ateb, ac mae geiriau T. H. Parry-Williams yn wawdlyd. Mae'n mynegi teimladau sydd mewn gwirionedd yn groes i beth mae'n ei feddwl go iawn. Mae'n awgrymu nad yw'n poeni o gwbl am Gymru ac mai "damwain a hap" yw ei fod yn byw yn y wlad o gwbl. Mae'n llwyddo i fychanu Cymru drwy ddweud mai darn bach o dir, "cilcyn o ddaear", ydyw mewn rhan ddiarffordd o'r byd, "mewn cilfach gefn", a'i bod mewn gwirionedd yn dipyn o niwsans i bawb arall.[2]
Digon tebyg yw ei farn am bobl y wlad hefyd: "gwehilion o boblach" yw'r Cymry sy'n swnian am eu cenedl a'u gwlad o hyd ac o hyd. Mae'r bardd wedi cael llond ei fol ar eu swnian ac mae'n dweud fod digon o genhedloedd eraill yn y byd heblaw Cymru, ac mae wedi blino bod yn Gymro ac wedi blino ar y Cymry.
I geisio dianc mae'n mynd yn ôl i'w fro enedigol. Cafodd ei eni ym mhentref Rhyd-ddu yng Ngwynedd, yng nghanol mynyddoedd Eryri a'r "Wyddfa a'i chriw]]" yn gwylio drosto.
Mae'n cyflwyno'r ardal i ni a'i disgrifio gan sôn am y pethau arbennig sydd yno: yr Wyddfa, y tir llwm a moel, y clogwyni, llyn ac afon, a'i gartref genedigol sef Tŷ'r Ysgol. Mae cariad y bardd tuag at ei wlad yn hollol amlwg, ac yn wir mae fel petai yn mwynhau sôn am y lle. Ond, wrth fynd yn ôl i'w fro mae'n clywed lleisiau o'r gorffennol ac mae'r rhain yn gafael ynddo ac yn ei ysgwyd. Mae'n sylweddoli na all ddianc rhag Cymru (yr "hon" a gyfeirir ati yn nheitl y gerdd): wrth ddychwelyd i Ryd-ddu mae'n sylweddoli ei fod yn perthyn i'r ardal ac felly i Gymru. Mae ei gariad at ei fro wedi tro yn gariad at ei wlad.
Arddull a thechnegau
golyguCyfres o rigymau yw'r gerdd yma, wedi eu hysgrifennu fesul cwpled a'r ddwy linell yn odli gyda'i gilydd. Mae'r llinellau yn goferu, hynny yw mae'r ystyr yn llifo o un linell i'r llall. Mae'r bardd wedi defnyddio arddull sgwrsiol a ffurfiau llafar, naturiol, er enghraifft"Beth yw'r ots", "wedi alaru", "ers talm", ac wedi defnyddio geiriau ac ymadroddion tafodieithol fel "libart", "poblach", a "da chwi".
Mae rhan gyntaf y gerdd yn trafod Cymru a'i phobl mewn ffordd sarhaus bron iawn, er enghraifft "cilcyn o ddaear mewn cilfach gefn", "gwehilion o boblach", "y Cymry bondigrybwyll". Yn y cwpled sy'n cysylltu dwy ran y gerdd ceir cyflythrennu: "eu lleferydd a'u llên", "a'm dychymyg yn drên".
Mae'r ail ran yn llawer llai ymosodol ac yn fwy llyfn o ran naws sy'n gwrthgyferbynnu ag arddull dechrau'r gerdd. Ceir trosiad wrth i'r bardd sôn am "dychymyg yn drên"—mae ei ddychymyg yn rhedeg yn wyllt, yn gyflym fel trên. Cly'r gerdd gyda chwpled grymus sy'n uchafbwynt effeithiol. Yma mae'r bardd yn defnyddio teitl y gerdd mewn ffordd grefftus. Nid yw'n enwi'r wlad, ond rydym yn gwybod mai at Gymru y mae'n cyfeirio.
Neges ac agwedd y bardd
golyguNeges y gerdd a'r hyn y mae'r bardd yn ei sylweddoli yw na allwn ddianc rhag yr hyn ydym ni mewn gwirionedd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Roger Owen (2013). Gwenlyn Parry (yn Saesneg). Gwasg Prifysgol Cymru. t. 148. ISBN 9780708326633.
- ↑ Stewart Mottram (2016). Writing Wales, from the Renaissance to Romanticism (yn Saesneg). Taylor & Francis. t. 193. ISBN 9781134788293.