Hon dansade en sommar

ffilm ddrama gan Arne Mattsson a gyhoeddwyd yn 1951

Ffilm Swedeg o Sweden yw Hon dansade en sommar (Swedeg; cyfieithiad Cymraeg Un Haf o Hapusrwydd), wedi'i chynhyrchu gan Arne Mattsson, ac wedi'i sylfaenu ar y nofel Sommardansen (Dawns yr Haf), a gyhoeddwyd yn 1949 gan Per Olof Ekström. Dyma'r ffilm Swedeg gyntaf i dderbyn gwobr Yr Arth Aur yng Ngŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Berlin. Cafodd hefyd ei henwebu am y Palme d'Or yng Ngŵyl Ffilm Cannes yn 1952. Mae'r ffilm yn cael ei gofio am y noethni ynddi - a achosodd lot o ffys pan ddaeth allan.

Hon dansade en sommar
Un Haf o Hapusrwydd
Cyfarwyddwyd ganArne Mattsson
Cynhyrchwyd ganLennart Landheim
SgriptVolodja Semitjov
Olle Hellbom
Seiliwyd arSommardansen gan
Per Olof Ekström
Yn serennuUlla Jacobsson
Folke Sundquist
Edvin Adolphson
John Elfström
Cerddoriaeth ganSven Sköld
SinematograffiGöran Strindberg
Golygwyd ganLennart Wallén
StiwdioNordisk Tonefilm
Dosbarthwyd ganNordisk Tonefilm
Rhyddhawyd gan17 Rhagfyr 1951, Sweden
Hyd y ffilm (amser)103 mumud
GwladSweden
IaithSwedeg

Gyda ffilm arall, sef Sommaren med Monika ("Haf efo Monika", 1952), daeth ag enw i Sweden fel "prifddinas rhyw rhydd" y byd.

Derbyniad golygu

Ceir dwy olygfa rywiol yn y ffilm: golygfa o nofio'n noeth a golygfa garu lle dangoswyd bron noeth yr actores Ulla Jacobsson. Achosodd dipyn o gynnwrf hefyd oherwydd y neges gwrth-eglwysig a phortreadu offeiriad lleol fel y dyn drwg. Er ei fod wedi derbyn nifer o wobrau, cafodd y ffilm ei banio mewn sawl gwlad gan gynnwys Sbaen.[1] Chafodd y ffim ddim mo'i lansio yn Unol Daleithiau America tan 1955.[2]

Categori golygu