Sommaren med Monika

ffilm ddrama gan Ingmar Bergman a gyhoeddwyd yn 1953

Ffilm ddrama gan y cyfarwyddwr Ingmar Bergman yw Sommaren med Monika (Swedeg, sy'n golygu "Un haf gyda Monika" yn Gymraeg) a gyhoeddwyd yn 1952. Daeth y ffilm yn bwnc llosg ar unwaith am ei bod yn cynnwys golygfeydd o gyrff noeth. Gyda chymorth Hon dansade en sommar a ddaeth allan flwyddyn ynghynt, torrodd dir newydd gan wneud Sweden yn flaenllaw ac yn enwog am ryddid rhywiol. Y ffilm hon, yn fwy na 'run ffilm arall, a wnaeth yr actores Harriet Andersson yn bomshell rhywiol. Roedd hi wedi cael perthynas gydag Ingmar Bergman am dipyn cyn hynny, ac mi wnaethon nhw gydweithio ar ffilmiau fel Sawdust and Tinsel, Smiles of a Summer Night, Through a Glass Darkly a Cries and Whispers ar ôl i'w perthynas orffen.

Sommaren med Monika
Enghraifft o'r canlynolffilm Edit this on Wikidata
Lliw/iaudu-a-gwyn Edit this on Wikidata
GwladSweden Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1953 Edit this on Wikidata
Genreffilm ddrama Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithStockholm Edit this on Wikidata
Hyd96 munud Edit this on Wikidata
CyfarwyddwrIngmar Bergman Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrAllan Ekelund Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuSF Studios Edit this on Wikidata
CyfansoddwrErik Nordgren Edit this on Wikidata
DosbarthyddNetflix Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSwedeg Edit this on Wikidata
SinematograffyddGunnar Fischer Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cynhyrchiad

golygu

Cynhyrchwyd y ffilm gan Allan Ekelund yn Sweden; y cwmni cynhyrchu oedd SF Studios. Sgwennwyd y sgript yn wreiddiol yn Swedeg a hynny gan Ingmar Bergman a chyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Erik Nordgren. Gunnar Fischer oedd y sinematograffydd ('cyfarwyddwr ffotograffi').

Y prif actorion yn y ffilm hon yw Harriet Andersson, Gert Fylking, Åke Fridell, Renée Björling, Bengt Eklund, Lars Ekborg, Sigge Fürst, Åke Grönberg, Naemi Briese, Dagmar Ebbesen, Bengt Brunskog, Gösta Gustafson a John Harryson.

Mae'r ffilm yn 96 munud o hyd a chafodd ei ffilmio mewn du a gwyn. [1][2]

Mae'r stori'n cael ei lleoli yn y rhan dlotaf o Stockholm. Mae Harry (Lars Ekborg) a Monika (Harriet Andersson) mewn swyddi gwael ac mae'n nhw'n syrthio mewn cariad. Pan mae Monika'n dod i drwbwl adref mae Harry'n dwyn cwch ei dad ac mae'r ddau'n cael haf bendigedig ar bentir rhamantus. Ond pan ddaw'r haf i ben, mae'n rhaid i'r ddau fynd adref, ac mae'n amlwg fod Monika yn feichiog. Mae'r ddau'n setlo i lawr efo'i gilydd i fagu'r plentyn. Ond dydy Monika ddim yn hoff o waith tŷ; mae hi isio rhamant ac antur, ac mae hyn yn ei harwain hi i chwilio am rywbath gwell... Mae Harry'n cael ei adael adref i fagu'r babi.

Lansio yn UDA

golygu
 
Dwy ffurflen yn sôn am lawnsio'r ffilm yn America

Prynodd Kroger Babb hawliau'r ffilm yn 1955. I wneud y ffilm yn fwy poblogaidd yn yr Unol Daleithiau cynyddodd y golygfeydd erotig a lleihau'r darnau a ystyrwyd yn "ddiflas" ganddo. Ailenwodd y ffilm yn Monika, the Story of a Bad Girl, a gwnaeth lawer o daflenni hyrwyddo awgrymog.[3]

Dylanwad

golygu

Sommaren med Monika (dan y teitl Saesneg Summer with Monika) oedd y ffilm Bergman cyntaf i Woody Allen ei gweld. Dywedodd ei fod wedi mynd i weld y ffilm am fod llawer o sôn yn lleol am olygfa noeth. Aeth i'w gweld a chael ei gyfareddu gan y ffilm "hynod ddiddorol" er mai byr a diniwed oedd yr olygfa noeth. Yn fuan wedyn gwelodd ffilm arall gan Bergman, sef Sawdust and Tinsel (teitl Saesneg), er nad oedd yn gwybod mai Bergman a'i gwnaeth. Roedd yn rhwym yn ei gadair gydag edmygedd gan feddwl "Pwy ydy'r boi 'ma?".[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Genre: http://www.imdb.com/title/tt0046345/. dyddiad cyrchiad: 18 Ebrill 2016. http://www.filmaffinity.com/en/film253861.html. dyddiad cyrchiad: 18 Ebrill 2016.
  2. Cyfarwyddwr: http://www.imdb.com/title/tt0046345/. dyddiad cyrchiad: 18 Ebrill 2016. http://stopklatka.pl/film/wakacje-z-monika. dyddiad cyrchiad: 18 Ebrill 2016. http://www.filmaffinity.com/en/film253861.html. dyddiad cyrchiad: 18 Ebrill 2016.
  3. Eric Schaefer, Bold! Daring! Shocking! True!: A History of Exploitation Films, 1919–1959 (Durham, NC: Duke University Press, 1999)
  4. Kilday, Gregg (4 Chwefror 2011). "Woody Allen Pays Tribute to Ingmar Bergman: 'His Approach Was Poetic'". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 10 Hydref 2013. Testun Saesneg: "The first Bergman I ever saw was that one because there was talk in the neighborhood that there was a nude scene. This was unheard of in any American film, that level of advancement. It’s so funny to think of it that way. I saw it, and it was a very, very interesting film apart from the utterly benign nude moment. A short time after that, I just happened to see Sawdust and Tinsel. I had no idea it was done by Bergman — that is, the person who’d done Summer with Monika — and it was just a fabulous movie. I was riveted in my seat by it all. I thought to myself, 'Who is this guy?'”