Hudud ul-'alam min al-mashriq ila al-maghrib
Llyfr daearyddiaeth a ysgrifennwyd yn yr iaith Arabeg gan awdur anhysbys o Bersia yn y 10g yw Hudud ul-'alam min al-mashriq ila al-maghrib (حدود العالم من المشرق الی المغرب). Ystyr y teitl yw "Terfynnau'r Byd o'r Dwyrain i'r Gorllewin".
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Unknown |
Iaith | Perseg |
Dyddiad cyhoeddi | 982 |
Cafodd y gwaith mawr ei gwblhau yn 982 OC, a'i gyflwyno i'r brenin Ghurid Abu ul-Harith Muhammad ibn Ahmad, ffaith sy'n awgrymu mai ef a noddodd neu a gomisynodd y gwaith.
Mae'r llyfr yn ymdrin â daearyddiaeth y byd Islamaidd ar adeg pan fu ar ei anterth, yn ymestyn o'r Maghreb ac Al-Andalus yn y gorllewin i deyrnasoedd Canolbarth Asia a'r ffin â Tsieina. Gorwedd ei arbenigedd yn y ffaith ei fod yn cynnwys adrannau llawn gwybodaeth am ymylon y byd Islamaidd ac felly mae'n ddogfen hanesyddol eithriadol o bwysig.
Am amser maith bu'r llawysgrif ar goll. Ond yn 1892 cafodd y dwyreinydd Rwsiaidd Toumansky hyd i'r testun yn ninas Bokhara diolch i gymorth Baha'i lleol dysgedig. Cyhoeddwyd argraffiad facsimile gyda rhagymadrodd a mynegiad gan Wilhelm Barthold yn 1930; cafwyd cyfieithiad Saesneg gan V. Minorsky yn 1937, ac un Perseg gan M. Sotude yn 1961.